Caerdydd: Dyn 68 oed wedi marw ar ôl adroddiadau am achos o drywanu
Mae dyn 68 oed wedi marw ar ôl adroddiadau am achos o drywanu yng Nghaerdydd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Richards Terrace yn ardal y Rhath am 05:50 fore Mercher.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 40 oed wedi ei arestio yno, a'i gadw yn y ddalfa am gyfnod, cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth a'i gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl.
Cafodd y dyn a oedd wedi ei anafu ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, lle bu farw, yn ôl y llu.
Ychwanegodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.