
'Cefnogaeth anhygoel': Miloedd ar y strydoedd wrth i yrfa seiclo Geraint Thomas ddod i ben yng Nghaerdydd
'Cefnogaeth anhygoel': Miloedd ar y strydoedd wrth i yrfa seiclo Geraint Thomas ddod i ben yng Nghaerdydd
Roedd miloedd ar y strydoedd wrth i yrfa seiclo Geraint Thomas ddod i ben ar ddiwedd cymal olaf Taith Prydain yng Nghaerdydd.
O'r Tour de France i fedalau Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau'r Byd, mae wedi ennill llawer o wobrau mwyaf y byd seiclo yn ystod gyrfa ddisglair o 19 mlynedd.
Ond ddydd Sul fe ddaeth gyrfa y Cymro 39 oed i ben lle dechreuodd y cyfan, ym mhrifddinas Cymru.
Wrth gael ei gyfweld ar S4C ar ôl y ras dywedodd bod yr emosiwn wedi dechrau cael y gorau ohono ar ei feic cyn gorffen y ras.
"Rydw i'n ei chael hi'n anodd hyd yn oed siarad ar hyn o bryd," meddai. "Ro'n i'n gwybod y byddwn i'n emosiynol, ond...
"Mae'n anhygoel. Dydw i heb gael rasio dros Gymru yn aml, ond bod tro ydw i wedi bod yn y wlad, mae wedi teimlo fel cynrychioli Cymru beth bynnag.
"Mae'r gefnogaeth yma wedi bod yn anhygoel."
Dechreuodd y cymal olaf yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd, cyn i'r beicwyr deithio tuag at Felodrom Maindy - cartref Clwb Beicio Maindy Flyers, cyn-glwb Thomas, cyn gorffen yng nghanol dinas Caerdydd.
Fe wnaeth S4C ddarlledu’r cymal olaf yn fyw i nodi ras olaf Geraint Thomas fel seiclwr proffesiynol.
Mae disgwyl i 4,000 o bobl ffarwelio â Thomas yng Nghastell Caerdydd wedi'r ras.

Dywedodd Thomas cyn y ras ei fod yn edrych ymlaen, ond yn disgwyl profi "sawl emosiwn" wrth i'w yrfa dod i ben.
"Yn amlwg fe fyddai'n profi sawl emosiwn gwahanol, dwi wedi bod yn seiclo am 19 mlynedd felly pan ddaw fore Llun ar ôl y ras fe fydd yn deimlad rhyfedd codi heb unrhyw dargedau o ran seiclo,” meddai.
"Dwi'n teimlo'n ffodus i ddod â fy ngyrfa i ben ar fy nhelerau fy hunain.
"Mae'r ffaith bod Taith Prydain ym mis Medi ac ar ddiwedd y tymor a bod y cymal olaf yng Nghaerdydd yn anghredadwy."

Fe wnaeth yr Ineos Grenadiers, y tîm yr oedd Thomas yn rhan ohono, roi’r cyfle iddo ddylunio ei grys ef a gweddill y tîm ar gyfer ei ras olaf.
Ar flaen y crys mae'r ddraig goch ac enwau pobl sydd wedi bod yn gefn i Geraint yn ystod ei yrfa.
“Roeddwn i eisiau enwau pawb sydd wedi bod gyda fi ar hyd y daith,” meddai.
“Ac wedyn cael y ddraig hefyd, sydd yn amlwg.
“Mae Macs [mab Geraint Thomas] wedi creu llun i fynd ar y cefn. Mae’n eithaf cŵl, mae fi a fe [ar bodiwm Tour de France]."
Ffarwel
Nid dyma'r tro cyntaf i bobl ymgynnull yn y brifddinas i ddathlu un o goreuon byd chwaraeon Cymru.
Yn 2018 ar ôl iddo ennill Tour de France a gwobr Sports Personality of the Year BBC Cymru a BBC Sports roedd miloedd wedi heidio i Fae Caerdydd i ddathlu llwyddiannau'r Cymro.
Y diwrnod hwnnw oedd un o'r gorau ym mywyd Geraint Thomas, meddai.
"Dyna un o uchafbwyntiau bob dim dwi wedi gwneud oddi ar y beic," meddai.
"Oherwydd fy mod i wedi byw i ffwrdd o Gymru ers troi'n broffesiynol, tu allan i'r DU dydych chi ddim wir yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth rydych chi'n derbyn.
"Yn amlwg, rwy'n gwybod bod y gefnogaeth yn enfawr, ac rwy'n cael llawer o gefnogaeth tra'n cystadlu, ond roedd mynd yn ôl i Gaerdydd a chael hynny yn wallgof.
"Yn amlwg yn y Tour de France [buddugoliaeth yn 2018] roedd rhywbeth tebyg. Doeddwn i erioed wedi meddwl am y diwedd.
"Dyna pryd roeddwn i wedi crio ar deledu rhyngwladol, a dwi'n credu y gallai dydd Sul fod yn debyg."
Gyda Syr Gareth Edwards, Gareth Bale, Jess Fishlock, Joe Calzaghe ac Alun Wyn Jones, fe fydd Thomas yn un o'r Cymry fwyaf dylanwadol erioed ym myd y campau yn ei wlad.
Mae Taith Prydain: Ras Olaf Geraint i’w wylio ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C.
Llun: Huw Evans