
Rhieni o Fôn yn sefydlu gwefan i godi ymwybyddiaeth am gyflwr prin eu mab
Rhieni o Fôn yn sefydlu gwefan i godi ymwybyddiaeth am gyflwr prin eu mab
Mae rhieni o Fôn wedi sefydlu gwefan i godi ymwybyddiaeth am gyflwr prin eu mab.
Mae Ffredi yn 16 mis oed ac yn byw gyda chyflwr Hirschsprung, sydd yn gyflwr sydd yn effeithio'r coluddyn ac yn ei gwneud hi'n anodd i fabanod gael symudiadau yn y coluddyn.
Mae'r cyflwr gan amlaf yn digwydd pan mae'r celloedd penodol sy'n helpu'r coluddyn i wthio gwastraff drwyddo ar goll.
A hithau yn fis ymwybyddiaeth o'r cyflwr, mae rhieni Ffredi, Arron a Georgina, yn awyddus i godi ymwybyddiaeth er mwyn helpu rhieni eraill sydd yn wynebu sefyllfa debyg.
Mae tua un o bob 5,000 o fabanod yn cael eu geni gyda'r cyflwr yn ôl Ysbyty Great Ormond Street.

Wedi i Ffredi gael ei eni, ni chafodd y teulu adael yr ysbyty, a hynny oherwydd nad oedd Ffredi wedi pasio unrhyw feconiwm.
Dridiau yn ddiweddarach, fe gafodd Ffredi archwiliad pelydr X, ac fe ddangosodd y sgan fod ganddo rwystr yn y coluddyn ac fe gafodd y teulu eu trosglwyddo i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl.
"Fe aethom ni mewn ambiwlans gyda'r goleuadau glas arno, dros nos," meddai mam Ffredi, Georgina Merckel Evans wrth Newyddion S4C.
Yn dilyn biopsi, daeth cadarnhad fod gan Ffredi gyflwr o'r enw Hirschsprung.
"Mae'r cyflwr yn datblygu yn yr wythnosau cyntaf ohonoch chi fel embryo, ond does dim modd cael unrhyw gadarnhad tan yr enedigaeth," meddai Georgina.
"Dyna pam mae cadw llygad am yr arwyddion allweddol fel peidio pasio unrhyw feconiwm, rhwymedd, yn bwysig iawn."
Ychwaneodd tad Ffredi, Arron Fôn Evans: "Yn y dechra, o’dd o’n sioc mawr. Yn amlwg, ti’n rili excited yn y dechra bo’ ti yn mynd i ddod yn rhiant am y tro cyntaf, a wedyn ti’n cael newyddion fel ‘na, mae o dipyn bach yn ddychrynllyd.
"Ers hynny, ‘dan ni ’di bod yn addasu bywyd ni o gwmpas Hirschsprung a trio dod i ddalld mwy amdana fo, a trio helpu pobl erill hefyd yn yr un sefyllfa, dyna pam nathon ni setio fyny’r wefan."

Mae coluddyn mawr Ffredi yn ei gyfanrwydd wedi ei effeithio gan y cyflwr, ac fe gafodd lawdriniaeth yn bedwar mis oed i osod tri stoma yn ei gorff, gan gynnwys ileostomi, sef triniaeth i ddod â phen eich coluddyn bach drwy agoriad yn eich bol i ffurfio stoma.
"I nifer o blant, fe fyddan nhw'n cael ileostomi dros dro cyn cael ail-gysylltiad, a gallu mynd i'r tŷ bach eto, ond yn achos Ffredi, y disgwyl yw y bydd yr ileosomi yn un parhaol oherwydd bod ei gyflwr Hirschprung wedi bod mor ddwys," meddai Georgina.
Mae codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn hollbwysig yn ôl Georgina ac Arron.
"Dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig ein bod ni'n codi ymwybyddiaeth o gyflwr Hirschsprung, dydych chi ddim yn clywed amdano yn aml am ei fod mor brin, ond pan 'dach chi'n derbyn y diagnosis a newydd gael babi, mae o'n gallu bod yn ddychrynllyd," meddai Georgina.
"Y bwriad ydy codi ymwybyddiaeth fel bod rhieni yn gwybod amdano ac yn fwy ymwybodol ohono, dydych chi ddim yn disgwyl i fabi bach gael stoma neu gyflwr prin os ydyn nhw'n edrych yn hollol normal."
Ychwanegodd Arron: "Os fedra ni mond helpu un person arall, ‘dan ni ’di neud ein job wedyn efo fo.
"Targed ni ydi codi ymwybyddiaeth amdan y peth a trio peidio rhoi teuluoedd eraill yn y sefyllfa oeddan ni yn rili mwy na’m byd arall."
'Teimlo yn llai unig'
Mae'r rhieni yn gobeithio y fydd teuluoedd sy'n wynebu sefyllfa debyg yn elwa o'r wefan a'r wybodaeth.
"Pan 'dach chi'n derbyn y diagnosis neu'n clywed y gair, a dydych chi ddim yn siŵr, byddwch chi'n dod o hyd i rywle lle mae'r holl wybodaeth yna, a fedrwch chi glywed straeon pobl eraill," meddai Georgina.
"Ond yn fwy na dim, mae yna dudalen sy'n gallu eich cyfeirio chi at gefnogaeth, oherwydd pan wnaethon ni dderbyn y diagnosis, fe wnaethon ni jyst fynd ymlaen gyda'n bywydau ni.
"Doeddem ni ddim yn gwybod fod yna gefnogaeth ar gael neu bobl i helpu, felly ro'n i'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn fod yna ofod lle mae'r holl wybodaeth yn yr un lle, a fod pobl yn gallu teimlo yn llai unig."