Caerdydd: Dyn oedrannus yn colli £16,000 mewn twyll gan heddwas ffug
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio ar bobl i fod yn wyliadwrus ar ôl i ddyn o ardal Glan yr Afon yn y ddinas golli miloedd o bunnoedd mewn twyll gan ddyn oedd yn esgus bod yn blismon.
Cafodd £16,000 ei ddwyn o law y dioddefwr sydd yn ei 80au, a hynny ar garreg ei ddrws ei hun ddydd Mercher.
Roedd twyllwyr wedi ffonio'r dyn yn gynharach y diwrnod hwnnw a'i dwyllo i feddwl eu bod yn swyddogion yr heddlu.
Fe wnaethant ei orchymyn i dynnu arian parod cyn i rywun gyrraedd ei dŷ a dwyn yr arian o'i law.
Mae'r heddwas ffug wedi ei ddisgrifio fel dyn du, gyda gwallt cyrliog canolig ei hyd, a barf a oedd wedi ei orchuddio dan fwgwd meddygol.
Roedd yn gwisgo top glas llewys hir gyda throwsus tywyll.
Cafodd dau achos am ymddygiad tebyg eu hadrodd i'r heddlu ddydd Mercher gan bobl yn ardaloedd Fairwater a Threganna (Canton).
Mae swyddogion yn amau y gallai pobl eraill gael eu targedu ac maent yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i gadw llygad am aelodau bregus o'u teuluoedd.
Mae Heddlu De Cymru'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500284326.