Gwrthod cais am unedau preswyl ar safle hen Neuadd y Sir yn Llangefni
Mae cynllun i ddatblygu unedau preswyl ar safle hen Neuadd y Sir yn Llangefni wedi cael ei wrthod.
Cafodd yr adeilad Fictoraidd rhestredig Gradd II ei ddinistrio mewn tân ym mis Rhagfyr 2023.
Y gred oedd bod bod cost y difrod i'r adeilad ar y pryd tua £2m.
Dywedodd perchennog y safle, Tristan Haynes, yn flaenorol, ar ôl clywed am y tân, ei fod wedi cael ei adael mewn cyflwr o "sioc llwyr ac anghrediniaeth".
Roedd wedi cyflwyno cais i adeiladu chwe uned breswyl ym mis Mai 2023.
Ym mis Gorffennaf 2024, cafodd y cynllun ei gymeradwyo yn amodol, ar yr amod bod cytundeb Adran 106 am gyfraniad ariannol o £49,999 i'w dalu tuag at dai fforddiadwy ar y safle.
Roedd disgwyl i'r datblygwr hefyd reoli a chynnal a chadw wal rhwng yr adeilad ac Afon Cefni.
Dywedodd Rhys Lloyd Jones, pennaeth datblygu a chynllunio Cyngor Môn mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddydd Mercher nad oedd "unrhyw gynnydd wedi'i wneud".
Roedd yr ymgeisydd wedi gofyn am fwy o amser yn flaenorol i drefnu arian ac roedd pedwar mis arall wedi'i roi iddo, meddai.
Dywedodd Mr Lloyd Jones: “Er bod yr ymgeisydd wedi darparu manylion cyfreithwyr yr wythnos diwethaf, mae wedi cadarnhau mewn e-bost ddoe nad oes ganddo'r arian i dalu ffioedd cyfreithiol y cyngor.
“Nid oes gan yr awdurdod cynllunio unrhyw ddewis ond gwrthod y cais oherwydd y diffyg cynnydd i gwblhau cytundeb Adran 106.”