Newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn achosi 'llanast' yn Rhondda Cynon Taf

ITV Cymru
Trafnidiaeth RCT / ITV

Mae blwyddyn ysgol newydd wedi cychwyn, ond mae rhieni yn Rhondda Cynon Taf wedi disgrifio newidiadau i drafnidiaeth ysgol yn yr ardal fel "llanast".

Mae rheolau newydd yn golygu bod yn rhaid i ddisgyblion ysgol uwchradd a choleg fyw tair milltir neu’n bellach o’u hysgol i dderbyn cludiant am ddim.

Mae hynny'n newid o'r rheol flaenorol sef dwy filltir neu fwy.

Mae rhai rhieni yn y sir yn anhapus oherwydd bysus gorlawn, gormod o draffig ar y ffordd i'r ysgol, ac amserau teithio hir.

Fe wnaeth grŵp o rieni sefydlu grŵp Facebook yn 2024 mewn ymateb i doriadau i drafnidiaeth ysgolion gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf.

Roedd Laura Hill yn un o'r rhieni hynny. Dywedodd Laura: "Rydyn ni'n byw 2.5 milltir i ffwrdd o'r ysgol. Pan ddechreuon ni'r ymgyrch, wnaeth fy mab a fi gerdded y siwrne. Cymerodd hi ychydig dros awr a chwarter i gyrraedd yr ysgol.

“Gallen nhw arbed arian unrhyw le arall. Mae hyn yn ymwneud ag addysg a diogelwch plant.

“Ry’n ni wedi derbyn llawer o negeseuon gan rieni sy’n poeni’n enbyd ynghylch sut maen nhw'n mynd i gael eu plant i'r ysgol. Mae llawer o'u plant yn teimlo’r straen hefyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Karl Johnson, arweinydd Ceidwadwyr Cymreig Rhondda Cynon Taf, fod saith gwasanaeth bws penodol a oedd yn gwasanaethu un ysgol wedi dod i ben, gan effeithio ar 350 i 400 o ddisgyblion.

"Gyda’r cynnydd mewn traffig, rydw i wir yn poeni y gall plentyn gael ei niweidio."

'Adolygu'r effeithiau'

Mae'r trothwy er mwyn derbyn trafnidiaeth ysgol am ddim yn amrywio o gyngor i gyngor. Fodd bynnag, mae llawer ohonyn nhw yn rhannu'r un rheol a Rhondda Cynon Taf; sef bod disgyblion ysgol gynradd sy'n byw dwy filltir neu fwy o'u hysgol yn gymwys, yn ogystal â disgyblion ysgol uwchradd sy'n byw tair milltir neu fwy o'u hysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf: “Dyma'r wythnos gyntaf i'r Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol gael ei ddiweddaru, ac rydym yn adolygu’r effeithiau.”

“Byddwn yn edrych ar yr adborth a byddwn yn cymryd unrhyw gamau gweithredol angenrheidiol lle bo angen.

“Mae pob dysgwr uwchradd ac ôl-16 yn gymwys i gael cludiant am ddim yn unol â Mesur Teithio Dysgwyr Llywodraeth Cymru sydd ar waith ar draws 18 allan o 22 ardal cyngor Cymru. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sy'n byw tair milltir neu fwy i ffwrdd o'u man dysgu yn dal i dderbyn cludiant am ddim.

"Mae ein Polisi Cludiant Diwygiedig o'r Cartref i'r Ysgol yn parhau i gludo miloedd yn fwy o blant bob wythnos na'r disgwyl, y tu hwnt i ofynion cludiant ysgol statudol.

“Roedd y newidiadau a gytunwyd arnynt yn 2024 yn anffodus yn angenrheidiol er mwyn i ni gadw costau o fewn cyfyngiadau ariannol y dyfodol, i barhau i allu cwrdd â’n gofynion statudol, a chynnal cludiant diamod ar gyfer ein defnyddwyr mwyaf bregus (e.e. disgyblion gydag anghenion ychwanegol).”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.