Dyn o Fôn yn gwadu bygwth trywanu gweithwyr RAF Fali
Mae dyn o Fôn wedi gwadu bygwth trywanu gweithwyr yng Nghanolfan Awyrlu RAF Fali ar yr ynys.
Mae David Motterhead, 44 oed o bentref Bodffordd, hefyd wedi gwadu bod â chyllell a bwyell yn ei feddiant wrth ddisgwyl ger mynediad y ganolfan ger Caergybi ar 25 Mawrth eleni.
Fe ymddangosodd Mr Motterhead yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands ohirio’r achos, ac fe fydd achos llys Mr Motterhead yn dechrau ar 23 Medi.