Vincent Tan i gynnal adolygiad o glwb pêl droed Caerdydd
Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan wedi dweud y bydd yn cynnal adolygiad o'r clwb cyfan ar ôl disgyn o'r Bencampwriaeth.
Yn ystod y penwythnos fe wnaeth yr Adar Gleision ddisgyn i Adran Un am y tro cyntaf ers 22 mlynedd.
Yn ystod y tymor maen nhw wedi cael tri rheolwr gwahanol. Maen nhw yn y safle olaf yn y gynghrair gydag un gêm yn weddill. Ond fydd buddugoliaeth ddim yn ddigon i'w cadw nhw yn y gynghrair.
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd perchennog y clwb Vincent Tan ei fod yn deall rhwystredigaeth y cefnogwyr a'i fod am gynnal adolygiad o'r clwb.
"Rydym yn cydnabod y teimlad llethol o rwystredigaeth a thristwch gan gefnogwyr wrth i ni adael y Bencampwriaeth," meddai.
"Rydym yn eich clywed chi. Dyma fydd y tro cyntaf ers 22 mlynedd i'r clwb beidio chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr neu'r Bencampwriaeth.
"Mae hynny yn realiti ac rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â hynny cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd Mr Tan: "Er mwyn cyflawni hwn, bydd cyfnod anodd ac adolygiad ar draws y clwb.
"Mae'r adolygiad hyn wedi cychwyn ac yn cynnwys y perchennog, prif weithredwyr a rhanddeiliaid."
Pwy fydd y rheolwr newydd?
Aaron Ramsey sydd wedi cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro ers i Omer Riza gael ei ddiswyddo ar 19 Ebrill.
Dywedodd nad oedd ganddo ddiddordeb mewn bod yn rheolwr parhaol a'i fod eisiau dychwelyd i chwarae i'r clwb tymor nesaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1915431538243621098
Mae Vincent Tan wedi dweud bydd rheolwr parhaol yn cael ei benodi erbyn cychwyn y cyfnod cyn-dymor ddiwedd mis Mehefin.
Er nad yw'r tymor wedi dod i ben eto mae sawl enw wedi eu crybwyll fel rheolwr newydd posib i'r clwb.
Mae'r rhain yn cynnwys y Cymro Rob Edwards oedd yn rheolwr Luton ar ddechrau'r tymor.
Hefyd mae yna sôn am gyn-reolwr Wolves Gary O'Neil, Neil Warnock, Steven Gerrard a Sean Dyche.
Ond gyda'r clwb yn disgyn i Adran Un a nifer o'r rheolwyr hyn wedi hyfforddi yn yr Uwch Gynghrair a'r Bencampwriaeth, bydd denu enw gyda phrofiad o bosib yn dasg anodd.