Newyddion S4C

'Neb yn cael gyrru': Dim trydan mewn rhannau helaeth o Sbaen a Phortiwgal

Trydan Sbaen

Nid oes cyflenwad trydan mewn rhannau helaeth o Sbaen a Phortiwgal ddydd Llun, ac mae hynny wedi amharu'n sylweddol ar wasanaethau yn y ddwy wlad.

Mewn cynhadledd newyddion yn hwyr brynhawn Llun, dywedodd Prif Weinidog Sbaen Pedro Sánchez nad yw hi'n glir beth sydd wedi achosi'r trafferthion. 

Dyw hi ddim yn ymddangos mai ymosodiad seibr sydd ar fai. 

Doedd dim trydan ym mhrif faes awyr Sbaen ym Madrid brynhawn Llun, ac mae trenau tanddaearol y Metro wedi dod i stop yno hefyd.

Mae tagfeydd traffig hir ym mhrifddinas Portiwgal, Lisbon wrth i bobol adael eu gwaith, am nad yw'r goleuadau traffig yn gweithio yno.   

Roedd trydan wedi dychwelyd mewn ambell ardal yn Sbaen nos Lun.  

Dywedodd Trefor Meirion Jones, datblygwr offer gwe o Wynedd sydd bellach yn byw ym Madrid, wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi cael cyngor i beidio â gyrru o amgylch y ddinas. Roedd hynny am nad oedd y goleuadau traffig yn gweithio, meddai.

Roedd hefyd wedi gweld pobl yn tyrru tuag at y siopau gan awgrymu bod nifer yn prynu mewn panig, meddai.

“Ro’n i’n gweithio gartref pan ddiffoddodd y pŵer yn sydyn,” meddai.

“Yn fuan wedyn dechreuais glywed pobl yn siarad y tu allan, ac yna seirenau heddlu bob ychydig funudau. 

“Dechreuodd ceir ddiflannu oddi ar y ffyrdd. 

“Roedd y rhyngrwyd symudol yn wael iawn iawn yr awr gyntaf felly roedd yn anodd cael gafael ar unrhyw un. 

“Mae’n dal yn wael nawr ond ychydig yn well."

Dywedodd nad oedd unrhyw gadarnhad o'r newyddion yn Sbaen beth sydd wedi achosi y problemau, eto.

“Mae’r awdurdod traffig lleol wedi argymell nad oes neb yn gyrru," meddai. "Nid yw’r goleuadau traffig yn gweithio. Mae’r dŵr dal i redeg.”

Ar y ffyrdd, mae'r sefyllfa wedi effeithio ar filoedd o deithwyr mewn nifer o ddinasoedd gan nad yw'r goleuadau traffig yn gweithio, ac mae'r tenis wedi dod i stop am y tro ym Mhencampwriaeth Agored Madrid.

Dywedodd Renfe, y cwmni sydd yn gyfrifol am rwydwaith trenau Sbaen bod y toriad cyflenwad wedi effeithio ar yr holl rwydwaith.

Mae Red Electrica, sydd yn gyfrifol am gynnal grid cenedlaethol y wlad yn dweud eu bod yn gweithio i geisio adfer y cyflenwad ac yn ceisio dod o hyd i'r rheswm pam fod y sefyllfa wedi digwydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.