Newyddion S4C

Dyddiad wedi ei gyhoeddi ar gyfer cyfarfod i ddewis y Pab nesaf

Mwg yn codi o Gapel Sistine

Bydd cardinaliaid yn cyfarfod ar 7 Mai i ddechrau ar y broses o ethol Pab newydd, wedi marwolaeth y Pab Ffransis ar fore Llun y Pasg. 

Bydd tua 135 o gardinaliaid o wledydd ar hyd a lled y byd yn cyfarfod y tu ôl i ddrysau caeedig. 

Daeth y cyhoeddiad ddeuddydd wedi angladd y Pab Ffransis.  

Does dim amser penodol wedi ei neilltuo ar gyfer y cyfarfod neu'r conclaf.  

Fe gymerodd ddeuddydd i gardinaliaid ddod i benderfyniad yn 2013 a 2005. 

Wedi i'r cardinaliaid gyrraedd Capel Sistine, ni fydd modd iddyn nhw gyfathrebu gydag unrhyw un y tu allan i'r adeilad, hyd nes y bydd Pab newydd wedi ei ethol. 

Mae angen mwyafrif o ddwy ran o dair, er mwyn i Bab newydd gael ei ethol.  

Os na fydd penderfyniad erbyn y trydydd dydd, bydd hawl gan y cardinaliaid i gael hoe, a chael diwrnod o weddi.   

Y tu allan i Gapel Sisitine, bydd llygaid y byd yn gwylio. 

Oes oes mwg du yn codi o simne'r adeilad, bydd pleidlais arall yn cael ei chynnal.

Bydd mwg gwyn yn golygu bod Pab newydd wedi ei ethol.  

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.