Newyddion S4C

'Risg uchel' i gleifion iechyd os nad oes 'gwelliannau yn cael eu gwneud ar frys'

Ysbyty

Mae "risg uchel" i gleifion os nad oes "gwelliannau yn cael eu gwneud ar frys" yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, medd adroddiad newydd.

Dywedodd yr adroddiad gan y Grŵp Cynghori Gweinidogol (GCG) fod angen "ffocws newydd" ar arweinyddiaeth o fewn y Gwasanaeth Iechyd a bod y corff yn cael ei ddal i gyfrif gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y grŵp ei sefydlu gan y Gweinidog Iechyd Jeremy Miles ym mis Hydref.

Yn yr adroddiad mae pryderon am "risg uchel" o gynyddu niwed i gleifion, pryder am amseroedd aros, triniaeth canser a gofal brys.

Mae Mr Miles wedi dweud ei fod yn derbyn 29 o argymhellion yr adroddiad a bod rhai "negeseuon anodd eu clywed".

Ond mae'n mynnu bod y cynnwys yn "optimistaidd yn y bôn."

Cafodd yr adroddiad ei arwain gan gyn-brif swyddog gweithredu GIG Lloegr Syr David Sloman. Yn yr adroddiad mae'n rhybuddio fod Cymru yn "dechrau o sefyllfa heriol".

Dywedodd fod hyn oherwydd ei phoblogaeth gymharol hen a sâl, anghydraddoldebau iechyd sy'n gwaethygu, rhestrau aros "uchel yn hanesyddol" a sefyllfa ariannol "heriol iawn".

Ychwanegodd ei bod yn amlwg bod angen "sylw brys" a "thrawsnewid" ar berfformiad mewn sawl maes o fewn y GIG.

'Newid sylweddol'

Rhai o brif argymhellion yr adroddiad yw:

  • Rhannu'r ffordd orau o weithio rhwng y byrddau iechyd

  • Ymrwymiad gan y GIG i "wella yn gyhoeddus"

  • Cymryd cyfrifoldeb a rheoli perfformiad 

  • Lleihau targedau

  • Cyllid sydd ar gael i'r GIG yn amodol ar berfformiad

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd Jeremy Miles bod angen "gwelliannau sylweddol" er mwyn gallu cyflawni'r newidiadau.

“Mae’r neges yn yr adroddiad yn glir iawn, mae gennym ni her sylweddol o ran perfformiad a chynhyrchiant," meddai.

"Nid yw’r gwasanaeth yn perfformio ar y lefelau yr ydyn ni, na’r cyhoedd, yn disgwyl ac angen iddo fod."

Ychwanegodd bod angen gweld canlyniadau iechyd gwell i'r cyhoedd a gwell gwerth am arian.

“Ond mae’r adroddiad hefyd yn obeithiol. Dro ar ôl tro, mae’n amlinellu cryfder yr adnoddau sydd gennym ni yma yng Nghymru. 

"Mae’n tynnu sylw at ymrwymiad a sgiliau ein staff clinigol a rheolaethol, strategaethau da, ac yn aml, arferion da," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.