'Ni fydd Trump yn torri ein hysbryd': Mark Carney yn dathlu buddugoliaeth yng Nghanada
Mae Prif Weinidog Canada, Mark Carney wedi dweud na fydd Donald Trump "byth yn berchen Canada" wrth ddathlu ennill etholiad y wlad.
Mae'r Blaid Ryddfrydol dan arweinyddiaeth Mark Carney wedi ennill etholiadau'r wlad.
Ond dyw hi ddim yn glir eto os yw ei blaid wedi ennill mwyafrif am fod y pleidleisiau yn dal i gael eu cyfrif.
Rhai misoedd cyn yr etholiadau roedd y rhagolygon barn yn darogan y byddai'r Blaid Geidwadol dan arweinyddiaeth Pierre Poilievre yn ennill.
Y gred oedd bod yna anfodlonrwydd cyffredinol gyda chyflwr economi Canada a 10 mlynedd o lywodraeth Ryddfrydol dan yr arweinydd Justin Trudeau.
Ond mae'r Blaid Ryddfrydol wedi dod i'r brig.
'Sefyll fyny dros Ganada'
Wrth areithio yn Nepean, Ontario dywedodd Mark Carney y byddai'n sefyll fyny dros Ganada. Fyddai America ddim yn cael torri ysbryd y wlad meddai.
"Mae gen i gwestiwn, pwy sydd yn barod i sefyll fyny dros Ganada gyda fi?" meddai wrth y dorf.
"Mae'r Arlywydd Trump yn ceisio torri ein hysbryd fel bod America yn gallu fod yn berchen arnon ni, ond fydd hynny byth yn digwydd."
Ychwanegodd Carney ei fod wedi rhybuddio ers misoedd bod America "eisiau ein tir, ein hadnoddau, ein gwlad."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1916957689311101214
Dywedodd hefyd y byddai ef a Donald Trump yn "cwrdd i drafod dyfodol dwy genedl sofran ac annibynnol" yn y dyddiau nesaf.
Fe ddaeth ei araith i ben drwy ddweud "gyda'n gilydd byddwn yn adeiladu gwlad sy'n deilwng o'n gwerthoedd. Canada gryf, Canada rydd, Canada am byth, vive le Canada."