Newyddion S4C

Rhai o fusnesau Caernarfon ‘dan gwmwl mawr’ ar ôl derbyn llythyr i fynd i'r llys

Caernarfon

Mae rhai o fusnesau Caernarfon yn anhapus wedi iddyn nhw dderbyn llythyr yn dweud y bydd rhaid iddyn nhw fynd i Lys Ynadon os nad ydyn nhw'n talu ffioedd aelodaeth i gorff sydd wedi ei sefydlu i wella canol y dref.

Fe gafodd Hwb Caernarfon ei sefydlu yn 2015 fel Ardal Gwella Busnes gyda bwrdd cyfarwyddwyr etholedig.

Y nod meddai gwefan yr Hwb yw ei fod yn cael ei ariannu a'i redeg gan fusnesau y dref i ddarparu mentrau er budd Caernarfon.

Yn ddiweddar, mae rhai o fusnesau Caernarfon wedi rhannu eu pryderon ar ôl iddyn nhw dderbyn llythyr gwŷs (court summons) a oedd yn dweud bod angen iddyn nhw dalu Lefi Ardal Gwella Busnes neu ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon.

Maen nhw’n teimlo fod y llythyr yn annheg oherwydd eu bod wedi cael biliau sydd, medden nhw, yn anghywir.

Mae Draenog, Siop Siafins a’r Gegin Fach ymhlith y busnesau sydd wedi cwyno am y llythyr gwŷs, yn ogystal ag am y diffyg tryloywder o ran y pwynt cyswllt i allu trafod a datrys y mater.

Dywedodd y tri busnes nad oedd yn bosib iddyn nhw ddatrys y sefyllfa gan fod Hwb Caernarfon yn dweud mai at Gyngor Gwynedd yr oedd angen iddyn nhw fynd, a Chyngor Gwynedd yn dweud fel arall.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n barod i "ystyried unrhyw dystiolaeth" nad oedd y biliau yn gywir.

'Taliadau annheg'

Mae Anwen Hywel, perchennog y busnes cardiau Cymraeg o’r enw Draenog, yn un o’r bobl sydd wedi derbyn llythyr gwŷs gan y llys yn ymwneud â'r Lefi Ardal Gwella Busnes.

Dywedodd wrth Newyddion S4C ei bod wedi cael ei bilio’n anghywir, a’i bod wedi gwrthod eu talu gan nad oedd y taliadau yn “deg”.

“Dwi’n gwbod bod biliau fi’n anghywir, a maen nhw’n cyfaddef bo nhw’n anghywir, ond dydyn nhw ddim yn fodlon newid nhw," meddai.

“Dwi ddim yn erbyn talu o gwbl, dwi jysd isho i’r taliadau fod yn deg."

Yn ôl Anwen, roedd ei busnes wedi cael ei filio’n anghywir gan fod y gwerth ardrethol (rateable value) anghywir wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r ffioedd sy’n ddyledus.

Eglurodd ei bod ar ddeall mai 1.5% o werth ardrethol eiddo'r busnes yw’r ffi i fod. Ond mae'n credu fod gwerth ardrethol y feithrinfa a oedd yn yr uned o’u blaen wedi cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo’r ffioedd dyledus. 

Wedi cydweithio gyda’r Swyddfa Werthuso (Evaluation Office), i weld be fyddai’r gwerth ardrethol cywir, dywedodd ei bod yn credu fod y ffi yn “lot uwch nag y dylai o fod”.

“Pan oni’n cal y bilia gan Hwb Caernarfon, do ni’m yn talu nhw achos oni’n deud wrthyn nhw bod y rateable value yn anghywir, a wedyn geshi’r llythyr yn deud bod angen i fi fynd i’r llys,” meddai.

Dywedodd ei bod wedi siarad efo Hwb Caernarfon ac adran drethi Cyngor Gwynedd yn esbonio bod y biliau yn anghywir. Er hynny doedd hi ddim yn eglur pwy oedd y pwynt cyswllt i allu trafod y mater yn iawn.

“Pan oni’n trio cysylltu efo pobl, roedd Hwb Caernarfon yn anfon fi at Cyngor Gwynedd, a Cyngor Gwynedd yn anfon fi at Hwb Caernarfon,” meddai.

Cyfnod anodd i fusnesau

“Mae’n gyfnod mor anodd i fusnesau bach beth bynnag, felly i gael llythyr fel ‘na… dwi’m yn meddwl eu bod nhw wedi delio efo fo yn y ffordd orau go iawn,” meddai.

“Dwi ‘di trio cael sgwrs efo nhw i esbonio pam bo fi heb dalu fo, a bo fi yn fodlon talu, jesd ddim y bil anghywir.

“A’u hateb nhw i bob dim ydi ‘na fydd rhaid i ti fynd i’r llys’."

Roedd Anwen yn meddwl y byddai’n rhaid iddi fynd i’r llys tan y diwrnod cyn yr achos, pan gafodd hi e-bost yn dweud eu bod angen mwy o amser i edrych ar y gwaith papur.

“Ma’r syniad o sefyll i fyny mewn llys a gorfod profi yn deimlad annifyr a stressful pan dwi’n trio rhedeg busnes, sydd ddigon anodd beth bynnag," meddai.

Digwydd bod, fe gafodd Anwen wybod fod mwy o fusnesau yng Nghaernarfon wedi derbyn gwŷs gan y llys yn ymwneud â'r Hwb.

“Y ffordd gyflym o fixio fo ydi jysd i dalu, er bo fi’n gwybod bod y bilia’n anghywir,” meddai.

“Roedd dipyn o bwysau arnai i dalu’r arian, ac i ddweud y gwir, os fyswn i ddim yn gwybod bod ‘na fwy o bobl mewn sefyllfa tebyg i fi, falle ‘swn i jysd ‘di talu i gael gwared ohono fo, mae o mor stressful.”

'Dryslyd a blin'

Busnes arall sy’n honni eu bod wedi cael trafferth gyda Hwb Caernarfon ydi Siop Siafins, siop sy’n gwerthu crefftau ac anrhegion o waith llaw.

Mewn datganiad ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Siop Siafins eu bod yn “un o sawl busnes yng Nghaernarfon” sy’n “ddryslyd ac yn flin iawn” gyda gweithredoedd Hwb Caernarfon.

“Mae wedi dod i’n sylw bod aelodaeth yn orfodol a bod pob busnes yn aelod waeth a yw’n dymuno bod ai peidio,” meddai’r datganiad.

Dywedodd Sian Morgan, perchennog Siop Siafins, wrth Newyddion S4C nad oedd “neb o fusnesau Caernarfon fel unigolion yn elwa o Hwb i ddweud y gwir”.

Yn eu datganiad ar Facebook, gofynnodd i’r Hwb drefnu cyfarfod agored i egluro i berchnogion busnes y dref pam eu bod wedi derbyn gwŷs Llys yr Ynadon. Roedden nhw hefyd eisiau trafod sut mae’r ffioedd wedi’u strwythuro a’r hyn y mae’r busnesau’n eu cael am eu haelodaeth.

Yn ôl Sian, dywedodd Cyngor Gwynedd wrthi nad oedd rhaid iddi dalu’r ffi gan nad oedd hi’n talu treth busnes.

Roedd hi felly wedi synnu pan gafodd hi’r llythyr gwŷs, fel rhai o fusnesau eraill y dref, meddai.

“Fy nghwyn i’n fwy na dim oedd y ffordd oedden nhw wedi mynd o’i gylch o, a bo’ ni heb gael warning am y summons chwaith, jysd ‘di landio yma," meddai Sian.

Ychwanegodd ei bod wedi cysylltu gyda’r Hwb a Chyngor Gwynedd, ond gan nad oedd ganddi’r dystiolaeth ei bod ar ddeall nad oedd angen iddi dalu, nid oedd ei dadl yn sefyll.

Dywedodd mai’r unig reswm y gwnaeth hi dalu yn y diwedd oedd oherwydd bod enw ei merch ar y llythyr gwŷs, ac nad oedd hi’n gwybod a fyddai hynny’n effeithio arni hi yn y dyfodol.

“Neshi gau am y diwrnod jysd i drio’i sortio fo, ond do’ ni’m callach yn diwadd,” meddai.

“O’n i wedi bod at y Cyngor yn trio cael sylw gan rywun ond ches i’m byd felly es i’r llys i drio cael synnwyr o fano, ond jysd yn mynd rownd a rownd mewn circles o’n i.”

'Cwmwl mawr'

Caffi bach teuluol yng Nghaernarfon ydi’r Gegin Fach.

Dywedodd Karen Jones, un o’r perchnogion eu bod nhw wedi derbyn llythyr gwŷs i'r Llys Ynadon hefyd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C fod y cyfeiriad yn anghywir ar y biliau, a’u bod wedi eu bilio fel cwmni cyfyngedig, er nad ydyn nhw’n un.

Wedi i’r Cyngor ddileu’r wŷs, fe gafodd hi fil newydd o £20 a oedd yn dal yn nodi’r cyfeiriad anghywir.

Maen nhw bellach wedi cael llythyr gwŷs arall i ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon fis Mehefin, meddai.

“Mae’n ridiculous,” meddai Karen. 

“Mae o reit stressful, mae o fatha cwmwl mawr drosta chdi."

Wrth siarad am orfod mynd i’r llys, dywedodd: “Mae’r thoughts o hynna drosta fi, dio ddim yn neis.”

'Cywir'

Wrth ymateb i Newyddion S4C, dywedodd Nigel Strain, cydlynydd yr Hwb: “Mae Hwb Caernarfon wedi derbyn cyngor cyfreithiol i beidio ymateb i gwestiynau’r Wasg gan fod y mater yn parhau o flaen y llŷs."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae unrhyw eiddo annomestig sydd o fewn ffin yr Ardal Gwella Busnes ac sydd â gwerth ardrethol o £2,000 neu fwy angen talu’r lefi yn unol â chanlyniad y bleidlais ac a amlinellwyd yn y cynnig ar adeg y bleidlais.

“Roedd y cynnig a bleidleisiwyd arno hefyd yn nodi fod y lefi yn seiliedig ar y gwerth ardrethol fel ag yr oedd ar adeg y bleidlais.

“Rydym yn derbyn fod perchnogaeth eiddo o fewn ffiniau’r ardal wella busnes yn newid ond rydym yn hyderus fod biliau wedi cael eu hanfon yn flynyddol ac yn gywir ar sail yr wybodaeth sydd gan y Cyngor.

“Rydym yn awyddus i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth sydd gennym ac yn barod i ystyried unrhyw dystiolaeth rydym yn ei dderbyn.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.