Llanidloes: Beiciwr modur wedi marw mewn gwrthdrawiad
Mae beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Llanidloes.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr A44 ger canolfan Sweet Lamb, Pantmawr am 15:30 ddydd Gwener.
Roedd fan Ford Transit wen a beic modur Triumph yn y gwrthdrawiad.
Bu farw'r beiciwr modur o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Mae teulu'r beiciwr wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol meddai'r heddlu.
Roedd ffordd yr A44 rhwng Llanidloes ac Aberystwyth wedi cau am gyfnod ar ôl y gwrthdrawiad, a chafodd ei ailagor ychydig wedi 01:00.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar yr A44 adeg y digwyddiad neu sydd â lluniau cylch cyfyng i gysylltu trwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 290 2 Mai.
Llun: Google