Cefnogwyr rygbi Castell Nedd yn dangos cefnogaeth er cweir o 104-0
Mae rhai o gefnogwyr rygbi Castell Nedd wedi dangos cefnogaeth at eu tîm er iddyn nhw gael cweir yn erbyn Merthyr.
Fe gollodd Castell Nedd o 104-0 yn erbyn Merthyr dros y penwythnos.
Fe ddaeth y canlyniad ar ôl i Merthyr gipio'r teitl yn Uwch Gynghrair Rygbi Cymru.
Hanner amser y sgôr oedd 66-0 ond fe ddaeth chwe chais arall yn yr ail hanner i Ferthyr.
Roedd Castell Nedd wedi chwarae tair gêm mewn saith niwrnod.
Yn y gêm rhwng Pontypridd 72 awr yng nghynt roedd y sgôr yn lot fwy agos- 34-33 i Bontypridd.
Ar gyfrif facebook y clwb fe wnaeth nifer o gefnogwyr amddiffyn y clwb gan ddweud eu bod wedi chwarae nifer o gemau mewn cyfnod byr.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Castell Nedd yn y trydydd safle yn y gynghrair.
Llun: merthyr.rfc.wales