Newyddion S4C

Arestio dyn 28 oed wedi 'ymosodiad difrifol' yng Nghaerdydd

Tafarn The Old Church Inn, Caerdydd

Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 61 oed ei gludo i’r ysbyty yn dilyn "ymosodiad difrifol" y tu allan i dafarn The Church Inn yn ardal Llaneirwg o'r ddinas tua 01.00 bore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 28 oed wedi mynd i mewn i orsaf heddlu yn wirfoddol ddydd Sul a'i fod wedi cael ei arestio.

Ond mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae'r dyn 61 oed yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr "difrifol" ond "sefydlog".

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am dystion.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2500138469.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.