Newyddion S4C

Iechyd meddwl mamau: Actores yn poeni am ddyfodol elusen

Iechyd meddwl mamau: Actores yn poeni am ddyfodol elusen

Mae’r actores Kimberley Nixon o Bontypridd yn galw am fwy o ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd meddwl ôl-enedigol yn y Gwasanaeth Iechyd ar ôl cael diagnosis o OCD yn dilyn genedigaeth ei mab. 

A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, daw ei galwadau yn sgil pryderon am ddyfodol elusen leol iddi sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i rieni, gydag ofnau y bydd yn rhaid iddyn nhw gau eu drysau.

Fe ddaeth yr actores a’r awdur – sydd yn wyneb adnabyddus o’r gyfres Fresh Meat ar Channel 4 yn ogystal â ffilmiau Hollywood fel Wild Child – yn llysgennad i’r elusen Mothers Matter yn Nhonypandy ar ôl dweud iddi gael “diffyg cymorth” gan feddygon gyda’i hiechyd meddwl yn dilyn genedigaeth ei mab yn 2020. 

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd: “Pan es i’n sâl gyda phroblemau iechyd meddwl ar ôl rhoi genedigaeth, roedd e’n rili anodd cael gafael ar gymorth.” 

Dywedodd bod “diffyg ymwybyddiaeth enfawr” gan feddygon yn y Gwasanaeth Iechyd ynglŷn â’i symptomau yn ogystal â’i chyflwr yn gyffredinol wedi iddi gael diagnosis o OCD (anhwylder gorfodaeth obsesiynol) ôl-enedigol. 

“O’n i’n teimlo mod i’n gofyn am help pob cyfle ges i… ond pan ofynnais i doedd ‘na ddim byd yna ac roedd y gwasanaethau oedd yna – doedden nhw ddim yn ddigon da,” meddai.

Image
Kimberley Nixon
Mae Kimberley Nixon hefyd wedi ymddangos yn y gyfres Iaith ar Daith ar S4C

'Diffyg ymwybyddiaeth'

Er ei bod yn cydnabod bod ei thrafferthion adeg y pandemig, dywedodd ei bod yn amau nad yw’r gwasanaethau priodol “yn bodoli beth bynnag.” 

Rhoddodd Kimberley enedigaeth i'w mab ym mis Hydref 2020 yn dilyn blynyddoedd o driniaeth IVF. 

Fe ddechreuodd hi ddioddef gyda symptomau difrifol gan gynnwys meddyliau digroeso (‘intrusive thoughts’) oedd yn “wirioneddol ddychrynllyd,” yn ogystal â gorfodaethau (‘compulsions’) fel rhan o frwydr fewnol i geisio atal “peryglon dychmygol.” 

Ac er nad oedd ei symptomau yn cyfateb i ddiagnosis o iselder, dyna oedd y cyngor a gafodd hi gan feddygon ar y pryd, meddai. 

“Doedd e ddim fel o’n i’n siarad gyda rhywun ar y stryd oedd heb glywed am OCD ôl-enedigol… doedd pobl yn y Gwasanaeth Iechyd heb glywed amdano chwaith," meddai.

Image
Iechyd meddwl

Yn ôl elusen OCD UK, mae anhwylder gorfodaeth obsesiynol yn effeithio ar tua 1.2% o bobl yn y Deyrnas Unedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer y cyfnod amenedigol (‘perinatal’), gan ddweud bod timau penodol ym mhob bwrdd iechyd. 

“Mae gan bob menyw mewn beichiogrwydd cynnar fydwraig benodol sy'n rhoi cymorth parhaus, sy’n gallu eu cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth, a sydd hefyd yn gallu eu cyfeirio at dimau iechyd meddwl amenedigol os oes angen,” meddai'r llefarydd. 

Cymorth yn Y Cymoedd

Ond a hithau’n teimlo fel nad oedd unrhyw gymorth ar gael iddi ar y pryd, fe benderfynodd Kimberley “edrych y tu hwnt i’r gwasanaeth iechyd am gymorth.”  

“Dyna sut wnes i ddod o hyd i PANDAS Foundation, sydd yn elusen amenedigol (‘perinatal’) anhygoel ond maen nhw ledled y DU, ac yn fwy lleol, Mothers Matter,” esboniodd. 

Mae canolfan Mothers Matter yn Nhonypandy, Cwm Rhondda yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl i rieni newydd hyd nes i’w plant droi’n bump oed. 

Mae modd i rieni a’u plant fynd i sesiynau cwnsela, gweithgareddau grŵp ac mae cymorth ar gael i rieni sydd wedi colli babanod hefyd. 

Ond mae’r elusen wedi cael gwybod yn diweddar fod perchnogion y ganolfan yn bwriadu gwerthu’r adeilad – gan olygu bod 'na bosibilrwydd y bydd yn rhaid dod a’u gwasanaethau i ben. 

Fel llysgennad i’r elusen mae hynny’n peri pryder i Kimberley Nixon, a hithau’n dweud “does ‘na ddim byd arall fel hyn yn Y Cymoedd.” 

Yn ôl Arweinydd Prosiect yr elusen, Shannon Davies, fe allai cau’r ganolfan gael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl pobl leol. 

Image
Shannon Davies
Shannon Davies, Arweinydd Prosiect Mothers Matter

'Rhan o fy nhaith fel mam'

Ymhlith y trigolion sydd yn dibynnu ar gefnogaeth Mothers Matter, y mae’r fam Ffion Mathias o bentref Ton Pentre yn Y Rhondda. 

Fe ddechreuodd Ms Mathias dderbyn cymorth gan yr elusen ar ôl iddi golli ei gefeilliaid pan yn 20 wythnos yn feichiog. 

Mae’n dweud heb gymorth Mothers Matter, mae’n debyg na fyddai hi wedi dod yn fam eto ym Medi 2024 gyda’i mab, Ted. 

“Mae’r ganolfan yma’n rhan fawr o fy nhaith i – o golled i ddod yn fam eto," meddai.

“Heb y cymorth dwi ‘di cael, efallai na fyddwn i wedi cael Ted,” meddai. 

Image
Ffion Mathias
Ffion Mathias

Mae Emily Owens, sydd hefyd o Don Pentre, yn dweud bod y ganolfan wedi “helpu ei ffydd” yn ei hunain wrth iddi ddod yn fam am y tro cyntaf gyda’i merch, Robyn. 

“Does ‘na ddim un man arall sydd yn rhoi’r hyn mae Mothers Matter yn ei rhoi,” meddai.

Image
Emily Owens
Emily Owens

Ymgyrchu

Mae’r elusen bellach yn ymgyrchu yn y gobaith o godi arian ac ymwybyddiaeth am eu sefyllfa. 

“Yn anffodus mae’r landlord wedi rhoi’r adeilad ar werth, a hynny am £300,000. Fel elusen ‘da ni methu fforddio prynu hynny,” esboniodd Shannon Davies o’r elusen."

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd perchnogion yr adeilad, sydd ddim yn dymuno nodi eu henwau, eu bod mewn trafodaethau gyda Mothers Matter er mwyn iddyn nhw allu prynu “eu hochr nhw o’r adeilad.” 

Bydd hyn yn datrys y mater os y gall Mothers Matter sichrau cyllid neu grant angenrheidiol," meddai'r perchnogion.  

Dyw’r cynnig i brynu rhan o’r adeilad, yn hytrach na’r adeilad cyfan, ddim yn newid sefyllfa’r elusen, medden nhw. 

Dywedodd Shannon Davies ei bod wedi cysylltu gyda nifer o bobl, busnesau a chynghorau am gymorth ariannol ond ei bod wedi cael gwybod nad oes unrhyw gymorth ar gael. 

“Yn anffodus ni allan nhw ariannu cyfalaf (fel gwerthiant adeilad). Dim ond rhai grantiau sy'n caniatáu hyn ac ar hyn o bryd rydym wedi cael gwybod does dim grantiau o'r fath ar gael,” meddai. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Chyngor Rhondda Cynon Taf am ymateb i bryderon Mothers Matter am eu dyfodol ond maen nhw wedi dweud na fyddan nhw’n ymateb yn yr achos hwn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.