Llambed: Apêl wedi i ddyn ddioddef 'anafiadau difrifol' mewn gwrthdrawiad
Mae swyddogion yr heddlu'n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol rhwng Llanbedr Pont Steffan a Llanwnen ar 6 Mai.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A475 am 14:55.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng fan Vauxhall Vivaro wen a beic modur du Royal Enfield.
Cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad i gysylltu gyda PC 504, naill ai ar-lein, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 25000374676.