Newyddion S4C

Rygbi: Gorffen rhediad gwaethaf Cymru yw'r flaenoriaeth, meddai'r hyfforddwr Matt Sherratt

Matt Sherratt

Dod a’r rhediad gwaethaf yn hanes tîm rygbi Cymru i ben yw’r flaenoriaeth ar gyfer y daith i Japan.

Dyna ddywedodd Matt Sherratt wrth gyhoeddi’r garfan ar gyfer y daith ddwy gêm fis Gorffennaf yng Ngwesty’r Fro ddydd Mawrth.

Ar ôl cymryd yr awenau yn dilyn ymddiswyddiad Warren Gatland yn ystod y Chwe Gwlad, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd Sherratt wrth y llyw unwaith eto ar gyfer y daith.

Bydd prif hyfforddwr Harlequins, Danny Wilson, a chyn chwaraewyr Cymru, Gethin Jenkins, Adam Jones a T. Rhys Thomas hefyd yn rhan o'r tîm hyfforddi dros dro.

Ni fydd hyfforddwyr eraill Cymru dan Gatland, Rob Howley, Mike Forshaw, Jonathan Humphreys nag Alex King yn rhan o’r daith, wrth i’r Undeb barhau i chwilio am brif hyfforddwr parhaol i'r tîm.

Dewi Lake sydd wedi ei enwi’n gapten ar y garfan o 33 o chwaraewyr, sydd yn cynnwys chwe chwaraewr di-gap: Capten Caerdydd Liam Belcher, Macs Page o Scarlets, Chris Coleman o’r Dreigiau a Garyn Phillips, Keelan Giles a Reuben Morgan-Williams o’r Gweilch.

Bydd Cymru yn gobeithio dod a rhediad o 16 o golledion i ben yn erbyn Japan, sydd dan arweiniad cyn hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones.

Tachwedd 2023 oedd y tro diwethaf i’r tîm ennill gêm rygbi rhyngwladol.

Wrth siarad â’r wasg, dywedodd Sherratt,  sydd hefyd yn brif hyfforddwr ar Rygbi Caerdydd: “Dw i'n gwybod bod yna awydd gwirioneddol i fynd i Japan a phrofi pwynt.

“Byddwn ni'n gwneud ein gorau i fynd yno a gosod sylfaen i'r hyfforddwr nesaf a gobeithio dod â'r record colli honno i ben hefyd. 

“Dw i'n meddwl y bydd cael ychydig mwy o amser a chyfle i’r chwaraewyr ddod i nabod yr hyfforddwyr yn helpu.

“Rhaid teimlo'n ffresh. Mae'n rhaid iddyn nhw fwynhau dod i hyfforddi, mae'n rhaid iddyn nhw fwynhau sut rydyn ni'n ceisio chwarae ac os ydyn nhw'n gwneud y pethau hynny, yna bydd gennym ni gyfle i ennill gêm.”

Carfan Cymru

Blaenwyr: Keiron Assiratti, Liam Belcher, Ben Carter, Chris Coleman, Elliot Dee, Taulupe Faletau, Archie Griffin, Dewi Lake (Capten), Josh Macleod, Alex Mann, Garyn Phillips, Taine Plumtree, James Ratti, Tommy Reffell, Nicky Smith,  Gareth Thomas, Freddie Thomas,  Aaron Wainwright, Teddy Williams

Olwyr: Josh Adams, Sam Costelow, Dan Edwards, Keelan Giles, Kieran Hardy, Reuben Morgan-Williams, Blair Murray, Macs Page, Joe Roberts, Tom Rogers, Ben Thomas, Johnny Williams, Rhodri Williams, Cameron Winnett.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.