Rhan o'r A55 ar gau am ddwy awr ar ôl i ddau ddyn 'ymladd' ar y ffordd
Roedd rhan o ffordd yr A55 ar gau am bron i ddwy awr ddydd Llun yn ar ôl i ddau ddyn adael eu ceir ac ymladd ar y ffordd, yn ôl adroddiadau i'r heddlu.
Cafodd Heddlu’r Gogledd eu galw i ardal Dwygyfylchi am 16.01 yn dilyn digwyddiad ar y briffordd tua'r gorllewin.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiad bod dau ddyn oedd yn teithio mewn gwahanol geir, sef Audi a Cupra, wedi dod allan o’r cerbydau ac ymladd yn y ffordd, medden nhw.
Cafodd y ddau eu hanafu a’u cludo i Ysbyty Glan Clwyd.
Cafodd y ffordd ei hail-agor toc cyn 18.00, gyda nifer fawr o gerbydau yn cael eu dal wrth i'r traffig ymestyn yn ôl y tu hwnt i Gyffordd Llandudno.
Mae un dyn wedi’i ryddhau o’r ysbyty bellach ac yn nalfa’r heddlu ar ôl cael ei arestio dan amheuaeth o ymosod, meddai'r heddlu ddydd Mawrth.
Cafodd ddwy ddynes, oedd yn gyrru’r ceir, hefyd eu harestio.
Cafodd dynes 33 oed ei harestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus a chlwyfo, tra bod dynes 49 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus wedi’i waethygu gan hiliaeth, a gyrru’n ddi-ofal.
Cafodd y ddwy ddynes eu rhyddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau swyddogion barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu eu bod yn “diolch i bawb a wnaeth gysylltu” yn ystod y digwyddiad, ac i’r “teithwyr am eu hamynedd a dealltwriaeth wrth i ni ymdrin â’r digwyddiad.”
Llun: Google Maps