‘Yfed dwy litr o fodca y dydd’: Dyn yn newid ei fywyd gyda chymorth canolfan yn Sir Gâr
‘Yfed dwy litr o fodca y dydd’: Dyn yn newid ei fywyd gyda chymorth canolfan yn Sir Gâr
“Erbyn y diwedd o’n i yn yfed tua dwy litr o fodca y dydd”.
Roedd Gareth yn gaeth i alcohol ac wedi colli’r cyfan.
Mae’n sôn am ei amgylchiadau yn y rhaglen Prosiect Pum Mil ac yn dweud nad oedd ganddo ffrindiau a’i fod yn gyfnod “tywyll” yn ei fywyd.
“Mae 'na siop yn dre. Maen nhw’n agor am 4 o’r gloch y bore ac odd y ddau botel yn barod i fi ar y step. ‘Na gyd odd rhaid i fi neud oedd rhoi yr arian," meddai.
Ond ar ôl treulio amser yng nghanolfan Derwen Newydd yn Rhydaman yn Sir Gâr, mae Gareth wedi llwyddo i drawsnewid ei fywyd.
Mae’r ganolfan, sy’n rhan o elusen The Wallich, yn cynnig lloches i bobl ddigartref sy’n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau. Y bwriad yw eu helpu i fynd i'r afael â'r dibyniaeth ac i ail-adeiladu eu bywydau.
'Ffodus'
Yn ôl Delia Protheroe, Cydlynydd Gweithgareddau yng nghanolfan Derwen Newydd, mae bob math o bobl yn cael eu helpu yno.
“Fi ‘di gweithio i’r Wallich nawr am naw mlynedd i gyd a fi 'di helpu pob math o bobl - adeiladwyr, lecturer, fi 'di helpu cyfreithiwr o’r blaen so dos dim dal," meddai.
Mae agwedd rhai at bobl sydd yn gaeth i alcohol a chyffuriau yn ei chythruddo meddai.
“S'neb yn cael ei geni ac yn meddwl, ‘O heddi fi moen troi yn adict’. Mae e yn neud fi yn grac pan ma rhai pobl - yn judgemental fel ‘na,” meddai.
Fe roddodd yr elusen gyfle i Gareth i wneud cwrs sŵoleg (Zoology).
“Brynon nhw ddau gwrs i fi ar-lein. Brynon nhw un cwrs a nes i fe mewn pythefnos! Odd e fod yn chwe mis fi’n credu. O’n i yn lwcus. Safies i arian a ges i laptop bach a wedyn dechre gweithio ac o’n i jest ddim yn gallu stopo wedyn.”
Fe aeth Gareth i’r coleg ac erbyn hyn mae’n gweithio fel technegydd anifeiliaid yng Ngholeg Sir Gâr. Ei fwriad yw gwneud cwrs dysgu er mwyn dod yn ddarlithydd.
Mae’n dweud fod Derwen Newydd wedi ei helpu i ddarganfod ei hun unwaith eto.
Yn y rhaglen deledu mae’r ganolfan, sydd yn cynnwys wyth ystafell i bobl gael aros, yn cael ei gweddnewid gyda chyllideb o £5,000. Mae cegin newydd yn cael ei gosod a chyfleusterau ymolchi newydd mewn ystafell lle mae modd i berson gael 'detox'. Daw’r cyfan yn bosib trwy help y gymuned a busnesau lleol.
“Fi mor ffodus i gael yr amser ges i gyda Derwen Newydd ar y dechre, dod i nabod fy hunan 'to, y siawns i dyfu fel person 'to, le o’n i ar goll t'mod o’n nhw 'di rhoi rhywle i fi ddechre ffindie’n ffordd 'to," ychwanegodd Gareth.
Mae modd gwylio’r rhaglen Prosiect Pum Mil ar S4C, S4C Clic a BBCiPlayer nos Sul Mai 25.