Newyddion S4C

Pam bod mwy o wiberod yn cael eu gweld ar draethau Cymru?

Gwiber

Mae'r cynnydd diweddar mewn adroddiadau o wiberod ar draethau Cymru'n debygol o fod o achos y cynnydd mewn ymwelwyr yn ystod yr haf, yn ôl arbenigwr nadroedd.

Ac mae gostyngiad cyffredinol wedi bod yn eu niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl Wolfgang Wüster o Brifysgol Bangor.

Daw ei sylwadau yn dilyn sawl adroddiad am wiberod (adders) ar draethau o Bwllheli i Abertawe.

Yn ôl yr Athro Wüster, sŵolegydd sy'n arbenigo mewn nadroedd, mae nifer y gwiberod yn gostwng yn hytrach na chynyddu.

"Yn gyffredinol, mae gwiberod yn mynd yn fwy prin - nid yn fwy cyffredin - ar draws Prydain oherwydd dinistrio cynefinoedd a newid hinsawdd," meddai.

"Mae'n fwy tebygol bod cynnydd yn nifer y gwiberod sy'n cael eu gweld oherwydd bod mwy o ymwelwyr yn mynd i draethau a thwyni oherwydd y tywydd sych, cynnes a heulog rydym wedi bod yn ei fwynhau dros y ddeufis diwethaf. 

"Yn eironig, mae'n debyg ei fod wedi bod yn sychach nag a fyddai'n ddelfrydol ar gyfer gwiberod."

Y wiber yw'r unig neidr wenwynig yn y DU, ond nid yw ei gwenwyn fel arfer yn beryglus i bobl.

Fel arfer mae'r neidr i'w gweld yn ystod y gwanwyn a dechrau'r haf.

Oes 'na le i boeni?

Mae'r Athro Wüster yn annog pobl i gymryd gofal pe bai nhw'n dod i gysylltiad gyda gwiber.

"Os yw pobl yn gweld neidr, mae'r ffordd orau o weithredu yn syml iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mwynhewch y cyfle i weld anifail sy'n mynd yn fwy a mwy prin, gadewch lonydd iddo a cherddwch i ffwrdd."

Image
Yr Athro Wolfgang Wuster
Mae'r Athro Wüster wedi bod yn ymchwilio i wenwyn, yn enwedig gwenwyn nadroedd

Fe aeth ymlaen i ddweud nad yw gwiberod yn naturiol am ymosod ar bobl, ond gall ddigwydd pe bai nhw'n teimlo dan fygythiad.

"Ni fydd y neidr yn ymosod arnoch chi, ac ni fydd yn eich brathu chi oni bai eich bod yn camu arno neu'n ei godi," meddai.

"Y cyfan y mae eisiau ei wneud yw cael llonydd i gario ymlaen gyda'i ddiwrnod yn torheulo neu'n chwilota!

"Ond i osgoi damweiniau, gwisgwch esgidiau cadarn, caeedig yn y twyni, yn hytrach na sandalau neu fynd yn droednoeth.

"A chadwch at lwybrau a gwnewch yn siŵr bod plant a chŵn yn gwneud yr un peth."

Yn ôl yr Athro Wüster, dylai unrhyw un sy'n cael ei frathu gan wiber fynd i'r ysbyty fel mesur rhag ofn.

"Gall brathiadau arwain at chwydd difrifol, poen, cyfog o bosibl, chwydu a sioc, ond mae effaith unrhyw frathiad yn anrhagweladwy," meddai.

"Nid yw'r rhan fwyaf o frathiadau yn ddifrifol, ond dylai unrhyw un sy'n cael ei frathu fynd i'r ysbyty ar frys rhag ofn y bydd yn troi allan i fod yn ddifrifol.

"Roedd y farwolaeth ddiwethaf o ganlyniad i frathiad gan wiber yn y DU yn 1975, felly 'da chi'n hynod annhebygol o farw neu ddioddef niwed hirdymor.

"Ond mae'n rhaid trin unrhyw frathiad gan wiber o ddifrif."

Prif lun: Llun llyfrgell 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.