Dau aelod o lysgenhadaeth Israel wedi eu saethu'n farw yn Washington DC
Mae dau aelod o staff sy’n gweithio i lysgenhadaeth Israel yn Washington DC wedi cael eu saethu’n farw.
Fe ddigwyddodd y saethu nos Fercher ger Amgueddfa Iddewig y Brifddinas sydd dafliad carreg i ffwrdd o swyddfa'r FBI.
Cwpl oedd y dyn a’r ddynes a gafodd eu saethu a oedd yn gadael digwyddiad yn canolbwyntio ar helpu pobl Gaza, meddai trefnydd y digwyddiad wrth y BBC.
Mae cyfryngau Israel wedi dweud mai eu henwau oedd Yaron Lischinsky a Sarah Milgram.
Mae'r heddlu wedi arestio Elias Rodriguez, 30 oed, o Chicago, mewn cysylltiad â'r saethu a mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Roedd wedi gweiddi "Free Palestine" ar ôl cael ei roi yn y ddalfa, yn ôl Pamela Smith, pennaeth heddlu Washington.
Ychwanegodd Steve Jensen, cyfarwyddwr cynorthwyol y FBI yn Washington, y bydd ymchwiliad yn "ystyried cysylltiadau posib â therfysgaeth".
Mae llysgennad Israel i’r Cenhedloedd Unedig, Danny Danon, wedi galw'r ymosodiad honedig yn "weithred amddifadus o derfysgaeth gwrth-semitaidd".
"Rydym yn hyderus y bydd awdurdodau’r UDA yn cymryd camau cryf yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am y weithred droseddol hon," meddai mewn neges ar X.
Dywed Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, fod yr ymosodiad "mor drist" ac yn "seiliedig yn amlwg ar wrth-semitiaeth".
"Rhaid i'r llofruddiaethau erchyll hyn yn DC, sy'n amlwg yn seiliedig ar wrth-semitiaeth, ddod i ben, NAWR! Nid oes lle i Gasineb a Radicaliaeth yn yr UDA," meddai mewn neges ar ei lwyfan cyfryngau cymdeithasol Truth Social.
"Cydymdeimlad i deuluoedd y dioddefwyr. Mor drist y gall pethau fel hyn ddigwydd! Dduw Bendithia PAWB!"
Llun: Llysgenhadaeth Israel i'r Unol Daleithiau.