Arestio dyn ar ôl i drên oedd ar ei ffordd i Gaerdydd daro tractor
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i drên oedd ar ei ffordd i Gaerdydd o Fanceinion daro tractor yn Sir Henffordd, Lloegr.
Cafodd dyn 32 oed ei arestio ar amheuaeth o beryglu diogelwch ar y rheilffordd wedi'r digwyddiad brynhawn dydd Iau.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon bod chwech o bobl wedi dioddef mân anafiadau.
Mae disgwyl oedi am weddill y dydd gyda phob trên rhwng y ddwy ddinas wedi eu canslo, meddai National Rail.
Mae'r Heddlu Trafinidiaeth yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod un o’u trenau, yr 08.30 o Fanceinion, wedi “taro rhwystr rhwng Henffordd a'r Amwythig” a bod “pob llinell wedi'u rhwystro”.
“Gall gwasanaethau trên sy’n rhedeg drwy’r gorsafoedd yma gael eu canslo neu eu hoedi,” ychwanegodd Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Canolbarth Lloegr fod criwiau wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar y trac yn Fferm Nordan, Llanllieni (Leominster), ychydig ar ôl 10.45.