
Lansio roced i'r gofod o ganolfan newydd yng Ngwynedd
Lansio roced i'r gofod o ganolfan newydd yng Ngwynedd
Mae roced wedi cael ei lansio i'r gofod i nodi agor canolfan ofod newydd yng Ngwynedd ddydd Iau.
Mae Canolfan Gofod Eryri wedi’i hadeiladu ar hen safle Maes Awyr Llanbedr, ger Harlech.
Mewn digwyddiad i agor y ganolfan ddydd Iau, roedd ymwelwyr gan gynnwys Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ac unigolion o Asiantaeth Ofod y DU, Space Wales, a phobl sy'n gweithio yn y diwydiant gofod yn bresennol.
Cafodd balŵn uchder uchel hefyd ei lansio gan gwmni Sent Into Space i nodi’r achlysur, gydag ymwelwyr yn dilyn taith y balŵn i ymyl y gofod o ystafell reoli’r ganolfan.
Roedd hefyd arddangosiad tanio roced fyw, a gafodd ei chynnal gan gwmni Launch Access oddi ar un o ddau strwythur lansio sy'n rhan o'r ganolfan.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: “Roedd yn fraint gwirioneddol i fod yn rhan o agoriad swyddogol Canolfan Ofod Eryri a gweld dros fy hun, y cyfleusterau newydd trawiadol sydd ganddi.
“Mae hwn yn foment nodedig nid yn unig i'r gymuned leol – gan ddod â chyfleoedd newydd, sgiliau a buddsoddiad i'r ardal – ond hefyd i sector ehangach y DU.
'Cyfleoedd'
Mae cyfleusterau’r ganolfan yn cynnwys labordy pwrpasol gyda chyfarpar profi blaengar, safle profi injan roced, dau strwythur lansio, a pharth prawf hedfan ar gyfer ymchwil i wahanol ddulliau o hedfan gofod.
Bydd yn rhoi "hwb mawr" i’r economi leol, yn ôl penaethiaid y ganolfan, gan greu "cyfleoedd busnes a chyflogaeth".
Mae cynlluniau hefyd i ehangu cyfleusterau’r ganolfan yn y dyfodol, gan ddatblygu “twristiaeth seryddol” yn yr ardal.
Dywedodd Lee Paul, Prif Weithredwr y ganolfan: “Rydym yn gobeithio symud ymlaen nawr gyda’n cynllun ehangach ar gyfer y safle sy’n cynnwys Canolfan Darganfod Gofod newydd gyda seryddfeydd (observatories) a phlanedwm, wedi’i chynllunio i wella’r cyfleoedd dysgu a’r diwydiant twristiaeth seryddol ymhellach.
“Rydym mewn un o’r lleoliadau awyr dywyll mwyaf hygyrch a dramatig yn y byd.”