Symud Cymru gyfan o statws 'arferol’ i statws 'tywydd sych estynedig'
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi symud Cymru gyfan o statws 'arferol' i statws 'tywydd sych estynedig' wedi'r cyfnod hir o dywydd sych a chynnes yn ddiweddar.
Mae'r penderfyniad wedi'i wneud ar sail ffactorau amgylcheddol a phryderon am y pwysau y mae tymereddau uchel a diffyg glaw sylweddol yn ei gael ar afonydd a bywyd gwyllt.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod y glawiad tri mis o Chwefror i Ebrill yng Nghymru yn 59% o'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn.
Mae hyn yn cyfateb i un o'r cyfnodau tri mis sychaf a gofnodwyd erioed yn ôl CNC.
Mae timau CNC ar draws y wlad yn dweud fod llif y mwyafrif o afonydd ar hyn o bryd naill ai yn isel neu yn eithriadol o isel.
'Cyfnod estynedig poeth a sych'
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae tanau gwyllt wedi bod yn fwy a mwy rheolaidd mewn sawl ardal o Gymru.
Mae Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy hefyd yn adrodd bod rhai lefelau dŵr mewn cronfeydd dŵr yn is nag y byddent fel arfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Ychwanegodd CNC eu bod yn cynghori pobl i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i ddiogelu cyflenwadau dŵr a'r Amgylchedd.
Dywedodd Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC Rhian Thomas: "Er bod rhywfaint o law gwerthfawr yn cael ei ragweld ar gyfer y penwythnos ac yn ystod y wythnos nesaf, bydd yn cymryd amser a mwy o lawiad sylweddol cyn y bydd lefelau afonydd a chronfeydd dŵr yn adfer ar ôl y cyfnod estynedig poeth a sych hwn.
"Mae dechrau mor sych i’r flwyddyn yn achosi pryder sylweddol i iechyd ein hecosystemau a’n cynefinoedd, yn ogystal ag i reoli tir a’r sector amaethyddol. O'r herwydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws tywydd sych estynedig."