Newyddion S4C

'Nunlle arall i fy mhlentyn' pe bai'r unig feithrinfa arbenigol yng Nghymru yn cau

Michaela a Roman Collins

Mae mam i blentyn ag awtistiaeth ac ADHD yn dweud na fydd "unlle arall ar gael" i'w phlentyn pe bai'r unig feithrinfa arbenigol yng Nghymru yn cau.

Mae peryg y gallai meithrinfa Y Bont ym Mhen-y-bont ar Ogwr gau oherwydd costau cynyddol a diffyg cyllid.

Y Bont yw'r unig feithrinfa arbenigol yng Nghymru sydd yn darparu gofal i blant gydag anghenion dwys a chyflyrau meddygol difrifol.

Mae plant mor bell â Bryste a Dinbych-y-pysgod yn defnyddio'r feithrinfa.

Ers bron i flwyddyn mae Roman, plentyn Michaela Collins o Ben-y-bont ar Ogwr, wedi bod yn defnyddio cyfleusterau Y Bont.

Yn saith oed, mae gan Roman gyflwr global developmental delay, yn ogystal ag awtistiaeth a ADHD.

"Mae Roman yn iau yn feddyliol nag y mae e go iawn, felly er ei fod yn saith oed mae e'n ymddwyn fel plentyn llawer iau," meddai Michaela wrth Newyddion S4C.

"Mae dal angen help arno i fwyta, gwisgo ac mae e dal yn gwisgo cewynnau.

"Roedd Roman mewn ysgol arferol ond doedden nhw methu â delio gyda'i anghenion i'r pwynt lle'r oedden nhw'n lleihau nifer ei oriau."

'Dinistriol'

Mae gan Y Bont dros 100 o blant sydd yn defnyddio eu cyfleusterau, gyda lle i hyd at 24 plentyn yn y feithrinfa ddydd.

Mae'r feithrinfa yn cynnig gofal yn ystod y dydd, clwb ar ôl ysgol a darpariaeth gofal dros gyfnod gwyliau ysgol.

Pe bai'r feithrinfa yn cau, ni fyddai unrhyw le arall i Roman dderbyn gofal, meddai ei fam.

"Byddai'n ddinistriol, does dim lle arall i Roman. Dwi wedi bod i sawl clwb ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau, ac er nad yw'n gwahaniaethu maen nhw'n dweud 'rydym yn sori, ond dydyn nhw ddim yn gallu ymdopi gydag anghenion eich plentyn'.

"Y Bont yw'r unig le nad yw fy mhlentyn yn cael ei farnu, ac maen nhw'n deall ac yn gofyn am anghenion eich plentyn.

"Ar ôl i ni ymweld y tro cyntaf, roeddwn i wedi gadael yn meddwl eu bod nhw'n deall fy mhlentyn."

Ychwanegodd: "Fe fyddai ein bywydau mor wahanol heb Y Bont. Pe bai nhw'n cau fydd nunlle arall i Roman a bydd rhaid i mi neu ei dad leihau ein horiau gwaith neu roi'r gorau i'n swyddi."

'Torcalonnus'

Ers bron i ddwy flynedd mae Sarah Jones wedi bod yn brif weithredwr ar Y Bont.

Mae hi'n dweud nad oes gan y feithrinfa lawer o gyllid a bod costau cynyddol parhaus yn golygu bod eu sefyllfa ariannol yn hynod bryderus.

Nid oes cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i blant cyn eu bod yn cyrraedd tair oed, sef yr oedran ysgol statudol.

Oherwydd hynny mae angen i'r Bont dalu am gyfarpar ar gyfer y plant sydd dan y trothwy oedran.

"Rydym yn derbyn cyllid i blant oedran ysgol statudol, ond cyn hynny does dim cyllid ar gael a dyna lle'r ydym yn dioddef," meddai wrth Newyddion S4C.

Image
Sarah Jones
Sarah Jones (Llun: ITV Cymru)

"Mae llawer o blant yn dod atom gyda chyflyrau eithaf cymhleth ac mae angen iddyn nhw gael cymorth un i un bob tro.

"Mae'n sefyllfa dorcalonnus. Ni ddylai plant sydd ag anableddau fod dan anfantais oherwydd eu hanableddau.

"Dylai'r cyllid fod ar gael i gefnogi datblygiad plant, dyna eu hawl nhw.

"Efallai bydd rhaid i ni gau, rydym yn mynd o fis i fis felly mae'n hynod, hynod anodd ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cynnal ymgynghoriad ar ein Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft 10 mlynedd i greu newid ystyrlon".

Ychwanegodd y llywodraeth: “Mae ein grant gofal plant a chymunedau yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer gofal plant a chwarae. Maen nhw'n cael eu hannog i roi ystyriaeth arbennig i anghenion teuluoedd â phlant ag anghenion ychwanegol a phlant anabl."

Dywedodd Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr eu bod yn gwneud y mwyaf o’r cyllid sydd ganddyn nhw i gefnogi Y Bont.

Bydd Michaela a rhai o rieni plant eraill sydd yn defnyddio Y Bont yn cerdded i fyny Pen-y-Fan ddydd Sul er mwyn codi arian i'r feithrinfa.

Maen nhw wedi codi dros £1,000 yn barod ac mae hyn yn un o nifer o ddigwyddiadau i godi arian i'r Bont.

"Rydym ni wir eisiau helpu," meddai Michaela.

"Heb Y Bont byddwn ni mewn lle hollol wahanol, felly rydym ni eisiau gwneud ein rhan ni i helpu.

"Ni fydd yr ymgyrchoedd codi arian yn dod i ben chwaith. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth i lefydd fel Y Bont achos os nad ydych chi yn y byd yma dydych chi ddim yn deall pwysigrwydd Y Bont."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.