Newyddion S4C

Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn 20 oed farw mewn gwrthdrawiad

Rhymni

Mae dyn wedi cael eu harestio ar ôl i yrrwr beic cwad 20 oed farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A465 rhwng Rhymni a Dowlais yn gynnar fore dydd Sadwrn.

Bu farw'r dyn o Frynmawr yn y fan a'r lle wedi i feic cwad gael ei ddarganfod gan swyddogion yr heddlu ar y ffordd am tua 04.50 y bore.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Mae swyddogion Heddlu Gwent yn credu bod ail gerbyd, BMW gwyn a gafodd ei ddarganfod wedi ei losgi yn ardal Dowlais, yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 40 oed o Ferthyr yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a gyrru dan ddylanwad alcohol, a gyrru dan ddylanwad cyffuriau.

Mae ail ddyn 37 oed, hefyd o Ferthyr, wedi ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr. Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101 neu ar eu gwefan a dyfynnu'r cyfeirnod 2500171434.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.