
Wcráin yn dinistrio degau o awyrennau rhyfel Rwsia mewn ymosodiad dronau
Mae asiantaeth cudd-wybodaeth Wcráin yn dweud bod hyd at 40 o awyrennau bomio o awyrlu Rwsia wedi eu dinistrio yn dilyn cyrch arbennig gan ddronau ar bedwar maes awyr yn y wlad ddydd Sul.
Yn ôl yr SBU, roedd 18 mis o waith paratoi wedi arwain at y cyrch, gafodd ei gynnal o du mewn i ffiniau Rwsia ei hun - gydag un targed, maes awyr Belaya - 2,500 o filltiroedd o'r ffin gydag Wcráin.
Y meysydd awyr eraill i gael eu taro oedd Diagilevo, Olenya ac Ivanovo.
Wrth siarad gyda Sky News, dywedodd swyddog o'r SBU: “Mae awyrennau bomio strategol y gelyn yn llosgi’n ffyrnig yn Rwsia - mae hyn o ganlyniad i ymgyrch arbennig yr SBU.
“Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Diogelwch yr Wcrain yn cynnal ymgyrch arbennig ar raddfa fawr i ddinistrio awyrennau bomio’r gelyn yn Rwsia.
"Mae dronau'r SBU yn targedu awyrennau sy'n bomio dinasoedd Wcráin bob nos.
"Hyd yn hyn, mae mwy na 40 o awyrennau wedi cael eu taro, gan gynnwys A-50, Tu-95 a Tu-22 M3."
Y gred yw bod y dronau wedi cael eu smyglo i mewn i Rwsia o flaen llaw mewn cargo ar gefn lorïau.
Mae Wcráin yn hawlio bod y cyrchoedd wedi creu gwerth $2 biliwn o ddifrod i awyrlu Rwsia, ac os oes sail i hynny yna fe fydd y datblygiad diweddaraf yn embaras mawr i Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ac arweinwyr ei asiantaethau diogelwch.
Lluniau: SBU
