Newyddion S4C

Tad o Langollen yn dringo Bryniau Clwyd gydag oergell ar ei gefn er cof am ei wraig

Matt Jones a'i deulu

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n cynnwys delweddau all beri gofid

Mae dyn o Langollen yn gobeithio cwblhau her ddringo 100km dros Fryniau Clwyd er cof am ei wraig – a hynny gydag oergell ar ei gefn. 

Ddydd Sadwrn fe fydd Matt Jones, 42, yn dringo 15,138 troedfedd dros 112.6km o hyd gydag oergell/rhewgell 90 pwys ar ei gefn. 

Mae’n gobeithio cyflawni’r her ‘One Bet’ er cof am ei wraig, Vicky Jones, a fu farw ddeuddydd cyn ei phen-blwydd ar ddydd Nadolig 2024. 

Yn dilyn ei golled, fe benderfynodd y tad i bedwar ddechrau hyfforddi ar gyfer yr her ar ôl “gwneud bet wnes i erioed feddwl y bydd yn rhaid i mi gyflawni".

Image
Matt Jones a'i deulu
Matt Jones gyda'i blant a'i wraig, Vicky Jones

Fis Medi'r llynedd roedd yn rhaid i Matt, sydd yn gyn gomando gyda’r Morlu Brenhinol, gael llawdriniaeth i gael clun newydd. 

Roedd yn rhaid iddo gael y llawdriniaeth wedi iddo gwblhau ras y Llangollen Round yn 2018 er ei fod wedi torri ei bigwrn, gan arwain at anafiadau pellach. 

Cafodd wybod gan feddygon ar y pryd na ddylai barhau i hyfforddi i gymryd rhan mewn rasys yn y dyfodol. 

“Dywedodd fy ngwraig anhygoel wrth y llawfeddyg ar y pryd: ‘Bydd y dyn gwallgof hwn yn gwneud y Llangollen Round gydag oergell ar ei gefn y tro nesaf.’

“Atebais: ‘W’nai ei wneud ddwywaith gydag oergell/rhewgell,’” esboniodd Matt wrth siarad â Newyddion S4C.

Image
Pigwrn Matt Jones
Pigwrn Matt Jones yn dilyn ei anaf yn 2018

'Profi'

Gyda chefnogaeth ei blant – Charlie, 13, Alistair, 11, Arayah Bow, wyth, ac Evrah, chwech – fe ddechreuodd Matt hyfforddi ar gyfer yr her ym mis Ionawr eleni. 

“Heb amheuaeth, dyma yw’r hyfforddiant mwyaf eithafol dwi erioed wedi ei wneud.

“D’on i ddim yn siŵr os o’n i’n gallu gwneud e… ond roedd y plant jyst fel 'mae’n rhaid i ti wneud e'.” 

Image
Matt Jones

Bydd Matt yn ymuno â 500 o bobl eraill wrth iddyn nhw gymryd rhan yn y Llangollen Round fore Sadwrn. 

Ond ar ôl cwblhau’r ras ger canolfan hamdden Llangollen, fe fydd yn rhaid i Matt ddychwelyd i ddringo gan orffen ei her ar Fryniau Clwyd gyda’i deulu a’i ffrindiau o’i amgylch. 

Mae’n benderfynol o gwblhau’r her er lles ei blant, meddai. 

“Dwi eisiau profi iddyn nhw fod unrhyw beth yn bosib. Nhw yw’r unig bobl sydd wedi dweud o hyd fy mod i’n gallu gwneud e.”

Image
Vicky Jones a'i phlant

'Fy anrheg'

Bydd Matt yn codi arian tuag at yr elusen i blant, Tŷ Gobaith, oedd yn “agos iawn at galon” ei wraig. 

Mae wedi codi dros £33,000 hyd yma. 

“Yr unig reswm dwi fel hyn yw oherwydd o’n i’n ddigon ffodus i gwrdd â’r fenyw fwyaf anhygoel – neu anrheg fel dwi’n ei galw hi – 20 mlynedd yn ôl. 

“Fi yw pwy ydw i o’i herwydd.” 

Image
Vicky Jones
Vicky Jones

Mae Matt wedi bod yn rhannu ei daith ar y cyfryngau cymdeithasol ar ei dudalen @fridge_freezer_man. 

Ond dywedodd ei fod wedi teimlo “ychydig o embaras” am yr holl sylw y mae wedi ei gael, gan ddweud ei nod bob tro oedd rhannu neges ei wraig. 

“Peidiwch â bod yn normal, peidiwch bod yn ddiflas. 

“Nod yr her yw ysbrydoli pobl eraill i fod yn wahanol,” meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.