Newyddion S4C

'Pwysicach fyth' fod teuluoedd di-Gymraeg yn rhan o Eisteddfod yr Urdd Môn

'Pwysicach fyth' fod teuluoedd di-Gymraeg yn rhan o Eisteddfod yr Urdd Môn

Yn cael ei hystyried fel un o gadarnleoedd y Gymraeg, mae'n "bwysicach fyth fod teuluoedd di-Gymraeg" hefyd yn rhan o Eisteddfod yr Urdd Môn y flwyddyn nesaf, yn ôl Aelod Seneddol yr ynys.

Cyhoeddodd trefnwyr yr Eisteddfod Dur a Môr ym Mharc Margam ddydd Gwener eu bwriad i ehangu'r ŵyl i un saith diwrnod o'r flwyddyn nesaf.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar Gae Sioe Môn, ger Gwalchmai, gyda'r cystadlu yn dechrau ar 23 Mai 2026 ac yn rhedeg tan ddydd Gwener 29 Mai 2026.

Wrth siarad ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener, dywedodd AS Ynys Môn Llinos Medi wrth Newyddion S4C: "Mae o’n bwysig bod y ‘Steddfod yn dod i gadarnleoedd fel Ynys Môn ond ma’n bwysicach fyth bo’ ni‘n dod â’r teuluoedd di-Gymraeg neu’r teuluoedd ail-iaith ‘ma efo ni ar y siwrna," meddai. 

"Ma’r cyfnod codi arian yn gyfnod iddyn nhw hefyd, codi hyder, a dangos bod yr Urdd yna iddyn nhw, a bod ‘na fodd o fwynhau. Ma’ hwn tu allan i’r ysgol ‘dydy, mae o’n fwynhau a bod efo dy ffrindia, drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofnadwy o bwysig."

Image
Osian a Gruff
Mae Osian a Gruff yn bobl ifanc o'r ynys sy'n gyffrous iawn am groesawu'r Eisteddfod i'r ynys y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Osian Iorwerth sy'n wreiddiol o'r ynys: "Ma’ mynd i ardal Gymraeg ofnadwy, mae o’n help i ddenu pobl i siarad Cymraeg fwy a jest dangos be’ ‘di diwylliant hyfryd yma yng Nghymru ac unigryw sydd genna ni yma yng Nghymru.

"Felly cyfle rili rili da i bobl Cymraeg lleol, pobl Cymraeg o’r de, canolbarth a hefyd i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg, dysgwyr a tu allan i Gymru hefyd."

Mae Gruff yn ddisgybl mewn ysgol uwchradd ar yr ynys, ac yn aelod o Bwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Môn 2026.

"Ma’n bwysig iawn, fel ‘dach chi’n gwybod, ma’ ‘na ddiwrnod dysgwyr yma yn y ’Steddfod, a ma’n wych achos ma’n annog siaradwyr di-Gymraeg i ddechrau siarad Cymraeg a dod i ‘nabod y diwylliant Cymreig felly pwysig iawn."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn Gary Pritchard y byddai'r wŷl yn ymweld â "chadarnle'r iaith".

"Wrth gwrs, ma genna ni lefydd ar yr ynys sydd ddim sydd ddim mor gryf yn yr iaith ond ma’ gwaddol yr Eisteddfod Genedlaethol a fu ar yr ynys yn ddiweddar ‘ma, ma’r ardaloedd di-Gymraeg neu llai Cymraeg hynny yn ymwybodol iawn o be’ ydi Eisteddfod.

"Ma’ hynny wedi bod yn waddol pwysig iawn i ni o’r Eisteddfod Genedlaethol a ma’ ‘na gymaint o fwrlwm yn yr ardaloedd hynny â sydd ‘na ledled yr ynys."

'Ffynnu'

Mae Llinos Medi hefyd yn gobeithio y bydd ehangu'r ŵyl i saith diwrnod yn dod â buddiannau economaidd i'r ardal.

"Yn amlwg, ma' diwrnod ychwanegol yn dod â chost ychwanegol idda fo a peryg ar Ynys Môn, mae o'n codi'r angen i ni godi fwy o arian ond hefyd os ti'n troi o, efallai fydd y giatiau yn agored am ddiwrnod ychwanegol, efallai fydd o'n fwy deniadol i rywun ddod," meddai.

"Blwyddyn nesaf fydd y flwyddyn gyntaf i ni weld a mi fyddan ni'n dysgu gwersi o hynny ond dwi jyst yn falch bod y mudiad yma yn ffynnu a bod yr angen i ymestyn yno."

Ychwanegodd Gary Pritchard: "Ma'n newyddion cyffrous, fel Cyngor Sir, 'dan ni'n hynod hynod o falch o allu croesawu'r Eisteddfod i'r fam ynys a mae'r ffaith bod yr ŵyl yn ymestyn yn rhoi mwy o reswm byth i bobl ymweld â'r ynys flwyddyn nesaf."

Dywedodd Osian Iorwerth: "Fydd 'na fwy o gyfleoedd i westai, bwytai lleol, ma' 'na lot o fusnesau lleol a gwestai bach yn agos i Mona so rili da a positif i'r economi a'r ardal leol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.