Aberystwyth: Gwrthwynebiad i israddio gwasanaethau strôc Ysbyty Bronglais
Mae aelod o'r Senedd dros Geredigion wedi lleisio ei gwrthwynebiad i gynigion Bwrdd Iechyd Hywel Dda a allai weld gwasanaethau strôc yn cael eu hisraddio yn ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Fe lansiodd y bwrdd iechyd ymgynghoriad cyhoeddus ddydd Gwener, fydd ar agor hyd at Awst 31, i newidiadau posibl ar ôl nodi bod naw gwasanaeth allweddol angen eu had-drefnu ar frys.
Y gwasanaethau allweddol hyn yw: gofal critigol, dermatoleg, llawdriniaeth gyffredinol frys, endosgopi, offthalmoleg, orthopaedeg, radioleg, strôc ac wroleg.
Nid oes unrhyw newidiadau i sut mae pobl yn cael mynediad at ofal brys neu ofal am fân anafiadau.
Mae'r ymgynghoriad wedi codi pryderon y gallai rhai gwasanaethau sy'n bodoli ar hyn o bryd ym Mrongalis gael eu hisraddio, gydag un o’r opsiynau dan sylw yn cynnwys gwasanaethau strôc yn yr ysbyty yn cael ei israddio i fodel ‘trin a throsglwyddo’, gyda llai o wasanaethau yng Ngheredigion.
Yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae ansawdd y gofal strôc a ddarperir gan ysbytai’r DU yn cael ei fesur gan ddefnyddio sgôr SSNAP (Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel).
Mae ysbytai wedi'u graddio o A-E, ac A yw'r lefel uchaf o ofal.
Ar hyn o bryd mae gan Fronglais sgôr SSNAP o B, sy'n dangos bod y gwasanaeth yn darparu gofal da iawn medd y Gymdeithas Strôc.
'Amhosib ymweld â chleifion'
Wrth drafod yr ymgynghoriad gan y bwrdd iechyd, dywedodd Elin Jones AS: “Rwy’n llwyr yn erbyn y cynnig trin a throsglwyddo ar gyfer gwasanaethau strôc ym Mronglais, ac rwyf wedi mynegi fy marn i’r Bwrdd Iechyd droeon dros y misoedd diwethaf a hefyd i Weinidogion Llywodraeth Cymru, ac rwyf hefyd wedi ymweld â’r uned strôc lle y trafodais ein darpariaeth bresennol gyda staff a chleifion, a siaradais mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth.
“Byddai’r model gofal hwn yn ei gwneud bron yn amhosibl i berthnasau ymweld â chleifion yn ddyddiol neu’n aml, a gwyddom pa mor bwysig yw’r ymweliadau hyn i gynorthwyo adferiad ar ôl strôc.
"Ni allwn dderbyn y cynnig hwn o fodel trin a throsglwyddo, ac rwy’n gweithio gyda phawb yn y gymuned leol yn y gobaith y bydd y Bwrdd Iechyd yn sylweddoli bod y model hwn yn annerbyniol.
“Rwy’n annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus pan fydd yn agor, fel y gallwn geisio sicrhau’r gwasanaethau o safon uchel sydd gennym ym Mronglais ar hyn o bryd, a bod y Bwrdd Iechyd yn derbyn ‘Na’ clir iawn gan bobl Ceredigion.”
'Dim penderfyniadau'
Yn ystod cyfarfod y bwrdd iechyd ddydd Gwener, dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood: “Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar yr opsiynau a gyflwynwyd, ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw atebion sy'n cael eu ffafrio.
"Mae’r newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud er mwyn sicrhau bod gennym wasanaethau diogel, o ansawdd uchel a gofal iechyd fforddiadwy yn y dyfodol, a bod buddiannau gorau pobl gorllewin Cymru a’u profiad fel claf yn ganolog iddynt.”
Ychwanegodd: "Rydym am wrando ar eich pryderon neu'r effeithiau posibl y credwch y gallai opsiynau eu cael a'ch barn ar rôl ein hysbytai yn y dyfodol. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw opsiynau neu syniadau eraill sydd gennych."
Yn dilyn ymgynghoriad, bydd y cynigion yn cael eu trafod ymhellach mewn cyfarfod o'r bwrdd iechyd ym mis Tachwedd.