Newyddion S4C

Dau oedolyn a pherson ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M5

M5 ger cyffordd 14

Mae dau oedolyn a pherson yn ei arddegau wedi marw mewn gwrthdrawiad ar yr M5.

Mae plentyn arall wedi dioddef anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn Sir Gaerloyw.

Car BMW gwyn oedd yr unig gerbyd yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 21:00 nos Wener pan adawodd y car y draffordd wrth deithio i gyfeiriad y gogledd ger cyffordd 14.

Bu'n rhaid cau dwy ochr y ffordd nos Wener rhwng cyffordd 14 ac 13 ond fe agorwyd y ffordd i gyfeiriad y de fore Sadwrn.

Mae'r ddau oedolyn, sydd yn eu 40au a pherson yn ei arddegau oedd yn teithio yn y car wedi marw tra bod plentyn arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dywedodd yr Arolygydd Mark Vicaro o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod y gwasanaethau brys wedi gweithio "trwy gydol y nos" i geisio achub bywydau'r rhai fu farw.

"Mae ein meddyliau gyda'r plentyn sydd yn yr ysbyty ac anwyliaid y rhai sydd wedi derbyn y newyddion ofnadwy yma dros nos," meddai.

"Bydd swyddog arbenigol yn eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae'r gwasanaethau brys wedi gweithio trwy gydol y nos yn yr hyn sydd wedi profi i fod yn sefyllfa gymhleth iawn.

"Maen nhw wedi gweithio'n ofalus ac mewn modd proffesiynol i geisio achub bywydau mewn amodau hynod drasig."

Mae oedi o hyd at awr wrth i'r draffordd i gyfeiriad y gogledd barhau ar gau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.