Newyddion S4C

Y Rhyl: Dyn mewn cyflwr difrifol wedi ymosodiad ger clwb nos

Tiki Room

Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi ymosodiad honedig yn oriau mân y bore yn Y Rhyl.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y dyn wedi dioddef ymosodiad ychydig cyn 03:10 fore dydd Sadwrn y tu allan i glwb nos Tiki Room ar Stryd Sussex.

Dioddefodd anafiadau difrifol yn y digwyddiad ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Stoke lle mae mewn cyflwr 'critigol'.

Mae dyn lleol wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am unrhyw dystion sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad.

"Roedd sawl person yn cymdeithasu yn y Tiki Room a thu allan ger y lleoliad adeg y digwyddiad," meddai'r Uwcharolygydd Ditectif Rebecca Hughes.

"Rydw i'n awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth, a byddwn yn gofyn iddyn nhw gysylltu â swyddogion cyn gynted â phosib.

“Hoffwn hefyd sicrhau’r cyhoedd fod hwn yn ymddangos fel digwyddiad ynysig, heb unrhyw fygythiad ehangach i’r cyhoedd.”

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu ddefnyddio eu gwefan a dyfynnu'r cyfeirnod 25000446263.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.