Newyddion S4C

Ynys Môn: Grŵp cymunedol yn gobeithio cymryd rheolaeth o Barc Penrhos

Penrhos (Kevin Thomas)

Mae grŵp cymunedol wedi dweud eu bod yn gobeithio cymryd rheolaeth hir dymor o Barc Penrhos ar Ynys Môn wedi i nifer o gwmnïau perchnogion y safle fynd i'r wal.

Mae perchnogaeth a dyfodol Parc Penrhos yng Nghaergybi yn "aneglur", yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, wedi i sawl cwmni sydd yn gysylltiedig â’r Seventy Ninth Group, perchnogion y safle, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Ddechrau mis Ionawr fe wnaeth y cwmni gwblhau'r gwaith o brynu'r safle gan gwmni Land and Lakes gyda'r bwriad o’i ddatblygu fel pentref hamdden gwerth £250 miliwn.

Ond dros y misoedd diwethaf, mae 10 o is-gwmniau’r Seventy Ninth Group wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Daw hynny wedi i Heddlu'r Met yn Llundain gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror fod pedwar o bobl wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad i "dwyll eang" honedig yn gysylltiedig â Seventy Ninth Group.

Cafodd y pedwar oedd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe wnaeth Seventy Ninth Group "wadu'n bendant" eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Ymhlith yr is-gwmniau sydd wedi mynd i’r wal mae’r cwmni DJC Leisure Limited, a wnaeth brynu’r safle gan Land and Lakes ar ran Seventy Ninth Group.

Fis diwethaf, fe ddywedodd y cwmni Kehoe Countryside Ltd o Wynedd, oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r safle, nad oedd DJC Leisure Limited am iddyn nhw barhau â’u gwaith.

Yn dilyn cwynion nad oedd biniau sbwriel wedi eu gwagio, fe benderfynodd arweinydd y grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos, Hilary Paterson-Jones, roi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn apelio am gymorth gwirfoddol.

Image
Hilary Paterson-Jones
Arweinydd grŵp Achub Parc Arfordirol Penrhos, Hilary Paterson-Jones

“Roedd 'na don o ymatebion o fewn yr awr gyntaf gan bobl oedd eisiau helpu,” meddai Ms Paterson-Jones, a sefydlodd y grŵp yn ôl 2011 i wrthwynebu’r cais gwreiddiol gan Land and Lakes.

“Pobl oedd eisiau gwagio’r biniau bach, y biniau mawr, rhai efo peiriant torri gwair, rhai yn saer coed yn cynnig trwsio ffens, pobl eisiau edrych ar ôl y toiledau – roedd rhaid gosod system rota. Ac o fewn 48 awr, roedd pobol yn gwneud y gwaith. Roedd yr ymateb yn anhygoel.

“Dros y blynyddoedd, mae’r warchodfa natur wedi mynd i lawr allt - ffensys yn disgyn a ddim rhai newydd yn cael eu gosod yn eu lle. Ond rŵan mae’r gwaith i gyd yn cael ei wneud ac yn wirfoddol.”

'Cyfle'

Bellach mae Achub Parc Arfordirol Penrhos ar fin sefydlu cwmni cymunedol, gyda’r bwriad o geisio perchnogi a rheoli rhan o’r parc yn yr hir dymor.

Dywedodd Ms Paterson-Jones: “Roedd hon yn gyfle nad oeddem yn gallu ei fethu. Roedd yn rhaid i ni wneud rhywbeth am y sefyllfa.

“Yn y pen draw, be da ni’n anelu amdano ydi dod a Penrhos dan berchnogaeth y gymuned a’i rhedeg fel y dylai gael ei redeg, a newid yr enw yn ôl i fod yn warchodfa natur, fel y dylai o fod.

“Mae 'na gymaint yn mynd ymlaen hefo’r ymchwiliad i’r cwmni, mae popeth yn mynd i gymryd mor hir, felly mae ffordd hir i fynd, ond rydym yn dal i frwydro.

"Mae’n dangos ymrwymiad y gymuned a faint mae Penrhos yn ei olygu i’r gymuned.”

Image
79th Group
Mae 10 is-gwmni sydd yn gysylltiedig â'r Seventy Ninth Group bellach yn nwylo'r gweinyddwyr

'Aneglur'

Wrth gyhoeddi pryniant y safle fis Ionawr, dywedodd y Seventy Ninth Group ei fod y “datblygiad fwyaf arwyddocaol hyd yma” i’r cwmni.

Yn rhan o’r cyhoeddiad, dywedodd Cyngor Môn eu bod yn edrych ymlaen at "sefydlu perthynas waith hirdymor" gyda'r cwmni.

Wedi i’r cwmnïau sy’n ymwneud â’r Seventy Ninth Group fynd i’r wal, mae Ms Paterson-Jones yn dweud fod y cyngor yn “eistedd yn ôl yn dawel” ar ôl “dangos cefnogaeth” i’r cwmni.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae'r sefyllfa'n parhau'n aneglur am berchnogaeth a dyfodol safle Penrhos, ac felly ni fyddai'n briodol gwneud sylw pellach.”

Mae pencadlys Seventy Ninth Group ar barc busnes yn Southport. Ond mae’r swyddfa honno bellach ar gau, ac nid yw gwefan y cwmni yn bodoli erbyn hyn chwaith.

Pan ebostiodd Newyddion S4C Seventy Ninth Group fe gawsom neges yn ôl yn dweud nad oedd y cyfeiriad ebost yn weithredol.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan y cwmni Quantuma sy’n gweinyddu sawl un o is-gwmniau’r Seventy Ninth Group.

Prif Lun: Parc Arfordirol Penrhos (Kevin Thomas)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.