Newyddion S4C

Dyn o Fedwas yn dathlu ei ben-blwydd yn 104 ar ôl 'nofio yn y môr bob dydd'

Bill Smith

Mae dyn o Sir Gaerffili sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 104 oed wedi dweud mai nofio’n ddyddiol yn y môr sydd yn gyfrifol am ei fywyd hirhoedlog.

Yn wreiddiol o dref Bedwas mae Bill Smith, sydd bellach yn byw ar Ynys Wyth, ei wedi bod yn nofio yn y môr am dros 50 mlynedd. 

Ond mae’n dweud y bydd yn rhaid iddo bellach ystyried nofio mewn pyllau nofio yn unig oherwydd lefelau llygredd dŵr yn yr afonydd a’r môr. 

Image
Bill Smith

Mae elusen The Blue Marine Foundation wedi creu fideo i nodi pen-blwydd Mr Smith ddydd Iau. 

Yn y fideo hwnnw mae’n siarad am ei gariad tuag at y môr – a’i bryderon am y dyfodol. 

“Pan dwi’n cau fy llygaid, y peth cyntaf sydd yn fy nharo i yw sŵn y môr ac mae hynny’n gwneud i fi eisiau mynd i mewn, ti methu anwybyddu e," meddai.

Ond mae’n dweud ei fod bellach yn “pryderu” am y llygredd sydd bellach ynddo. 

“Dyw’r môr ddim yr un peth ag oedd e,” meddai. 

Image
Bill Smith

'Helpu'r ymennydd'

Fe ddechreuodd Mr Smith nofio pan oedd yn fachgen tair oed ac mae’n dweud mai'r môr yw ei hoff le i ymarfer corff. 

“Mae’r môr yn mynd ymlaen am byth,” meddai. “Does ‘na ddim symudiad [mewn pwll].” 

Ag yntau bellach gyda mab a merch yn eu 70au mae’n dweud ei fod wastad wedi nofio trwy gydol y flwyddyn gyfan. 

“Neith e helpu chi i fyw yn hirach, ac nid yn unig byw yn hirach, mae’n helpu eich ymennydd i fyw yn hirach.” 

Image
Bill Smith

Cafodd ffilm ‘Bill’s Story’ ei chreu fel rhan o brosiect gan y Blue Marine Foundation i adnewyddu’r moroedd. 

Dywedodd Louise MacCallum o’r elusen bod y prosiect yn hollbwysig, “nid yn unig i’r anifeiliaid a’r planhigion sy’n byw yn y môr, ond hefyd er lles ac iechyd pobl a chymunedau.” 

Lluniau: Solent Seascape Project/The Blue Marine Foundation

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.