Newyddion S4C

Steffan Powell: Dathlu 20 mlynedd o Doctor Who a'r 'effaith enfawr ar Gymru'

Russell T Davies a Steffan Powell
Russell T Davies a Steffan Powell

Mae’r cyflwynydd o Sir Gâr, Steffan Powell, wedi sôn am yr “effaith enfawr” mae Doctor Who wedi ei gael yng Nghymru – a hynny fel rhan o raglen arbennig i ddathlu 20 mlynedd ers iddi ddychwelyd i’r sgrin fach. 

Fe wnaeth y gyfres eiconig ddychwelyd i’r teledu ar ôl cael ei hail lansio yng Nghaerdydd gan Russell T Davies, sydd o Abertawe yn wreiddiol, yn 2005. 

Fel rhan o raglen arbennig o Unleashed i ddathlu hynny, mae Steffan Powell wedi cyfarfod â nifer o sêr y gyfres gan drafod yr effaith y mae Dr Who wedi ei chael ar ei famwlad hefyd. 

Mae’n dweud efallai na fyddai’r diwydiant teledu yn bodoli fel y mai heddiw yng Nghymru heb ddylanwad Doctor Who. 

“Dwi’n meddwl bod Doctor Who wedi cael effaith enfawr ar Gaerdydd a Chymru," meddai.

“Mae rhai o’r Cymry a gafodd y cyfle i weithio yn y byd teledu oherwydd Doctor Who, maen nhw wedi ymlaen i wneud pethau gwych ac anhygoel dros y byd i gyd. 

“Ac mae hynny i gyd oherwydd bod Doctor Who wedi dod i Gaerdydd.”

Image
Billie Piper a David Tennant
Billie Piper a David Tennant (Stiwdio BBC/Bright Branch)

'Gwych'

Bydd rhai o’r Doctoriaid mwyaf adnabyddus yn ymddangos yn y bennod gan gynnwys David Tennant, Jodie Whittaker ac Ncuti Gatwa.

Fe fydd Karen Gillan ac Arthur Darvill a chwaraeodd rolau Amy Pond a Rory Williams hefyd yn ymddangos. 

Image
Karen Gillan ac Arthur Darvill
Karen Gillan ac Arthur Darvill fel Amy Pond a Rory Williams

Ac fe fydd Billie Piper, oedd yn ffrind i’r Doctor yn ei rôl fel Rose Tyler yn ymddangos yn ogystal. 

Y gred yw mai Billie Piper yw'r Doctor Who mwyaf diweddar wedi iddi ymddangos yn lle Ncuti Gatwa ar ddiwedd y bennod ddiwethaf ddydd Sadwrn. 

Dywedodd Steffan Powell: “Mae wastad yn wych i weld rhai o’r wynebau eiconig o’r gorffennol.

“Mae eu gweld nhw yn trafod eu profiadau ar Doctor Who gyda chymaint o angerdd yn hynod ddiddorol,” meddai. 

Bydd modd gwylio Doctor Who: Unleashed ar BBC 1, BBC Three a BBC iPlayer ar ddydd Sadwrn, 7 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.