Newyddion S4C

'Balch': Cwmni sawna sy'n cydweithio â Phrifysgol Bangor ymhlith y goreuon yn y DU

Caroline Coch

Mae cwmni sawna yng ngogledd Cymru wedi ennill gwobr sy'n nodi ei fod ymhlith y goreuon yn y DU.

Fe wnaeth cwmni Sawna Bach gipio'r wobr am y rhaglen iechyd orau yng ngwobrau'r Gymdeithas Sawna Prydeinig yr wythnos hon.

Cafodd sawna cyntaf y cwmni ei agor ym Mhorth Tyn Tywyn ar Ynys Môn yn 2023, gydag ail yn agor ger Llyn Padarn yn Llanberis y llynedd.

Mae’r wobr yn cydnabod ei bartneriaeth gyda Phrifysgol Bangor, lle mae ymchwilwyr yn astudio sut y gall defnyddio sawna gefnogi lles corfforol a meddyliol. 

Yno mae'r tîm yn datblygu canllawiau newydd i helpu pobl i gael y gorau o'u sesiynau sawna, gan gynnwys pa mor aml i fynd a'r ffordd orau i oeri.

Yn ôl ffigyrau’r Gymdeithas Sawna Prydeinig, mae’r nifer o sawnau yng Nghymru wedi cynyddu bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf – o chwech i 24.

'Arwain y ffordd'

Dywedodd Dr Caroline Coch, cydberchennog Sawna Bach, ei bod yn "falch iawn" o ennill y wobr.

"Mae sylweddoli bod gogledd Cymru yn chwarae rôl mor bwysig yn genedlaethol wedi gwneud i ni deimlo'n falch iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae'n ein gwthio ymlaen i barhau efo'n gwaith unigryw gyda'r brifysgol - mae'n teimlo'n wych ein bod yn arwain ymchwil does neb arall yn ei wneud."

Yn ôl Dr Coch, sy'n wreiddiol o'r Almaen ond yn byw yng Nghymru ers 2018, mae'n "hollbwysig" i ddysgu mwy am ddiwylliant sawna'r DU.

"Mae'r mudiad sawna yn dal i fod yn newydd iawn yma, ac mae'n wahanol iawn i'r mudiad yn y Ffindir neu'r Almaen," meddai.

"Felly mae'n hollbwysig ein bod ni'n cael ein hymchwil ein hunain ar y math o ddiwylliant sawna sy'n cael ei ddatblygu yma."

Image
Sawna Bach Llanberis
Mae Sawna Bach yn berchen ar ddau o 24 sawna yng Nghymru

Dywedodd Dr Coch y bydd ymchwilwyr yn edrych ar y dulliau oeri gorau rhwng sesiynau yn y sawna.

"Mae'r ymchwil yn ymwneud â gwneud sawna yn fwy diogel wrth ddeall ei effaith ar y corff," meddai.

"Achos mae mynd i mewn i'r sawna ac i mewn i'r oerni yn rhoi straen gwahanol ar y corff - mae rhai mathau o straen yn bositif, ond os ydych chi'n ei wneud am rhy hir neu ar dymheredd rhy uchel, gall hefyd fod yn negyddol - mae'n rhaid dod o hyd i falans."

Ynghyd a'r ymchwil, mae Sawna Bach yn bwriadu agor trydydd sawna yn yr ardal.

"'Da ni'n edrych ar leoliadau eraill, ond 'da ni wedi penderfynu peidio ag ehangu eleni," meddai Dr Coch.

"Mae'r diwylliant sawna yn tyfu yma yng ngogledd Cymru, ac mae'n wych cael bod yn rhan o hynny drwy gynnig sawna o safon gydag ymchwil yn ei gefnogi. 

"Felly 'da ni'n awyddus iawn i ddod â'r profiad yna i fwy o bobl yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.