Newyddion S4C

Pobl Cymru yn wynebu 'anghydraddoldebau eang' mewn cyfraddau canser

Triniaeth canser

Mae pobl Cymru yn yn wynebu “anghydraddoldebau eang” mewn cyfraddau canser yn dibynnu ar y tai y maen nhw'n byw ynddyn nhw, eu swydd a'u hethnigrwydd, yn ôl astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Ac yn ôl un arbenigwr, fe allai hyd at bedwar o bob 10 achos o ganser gael eu hatal yng Nghymru pe bai’n datrys gwahaniaethau o’r fath.

Daw’r adroddiad ar ôl i arbenigwyr gyfuno data cofrestrfa canser Cymru â data'r Cyfrifiad am y tro cyntaf erioed.

Yn ôl yr astudiaeth gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, pobl sy’n gweithio mewn swyddi â chyflog is sydd â’r cyfraddau uchaf o ganser.

Roedd y rheiny, gan gynnwys pobl sy’n gweithio mewn swyddi â llaw (‘manual’) yn benodol, yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach na'r rhai mewn swyddi proffesiynol, meddai’r adroddiad.

Dywedodd yr adroddiad hefyd bod pobl sy’n byw mewn tai "gorlawn" neu mewn tai cymdeithasol yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser yn ogystal.

Ac roedd gwahaniaethau hefyd mewn cyfraddau canser rhwng grwpiau ethnig.

Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru bod y gwahaniaethau "yn arwain at iechyd gwaeth a bywydau yn cael eu torri'n fyr, gan greu neu waethygu anghydraddoldebau iechyd.” 

“Mewn gormod o rannau o Gymru, nid yw'r blociau adeiladu iechyd a llesiant - fel cartrefi iach, swyddi da, digon o arian i dalu biliau, cysylltiadau â phobl yn ein cymunedau, addysg a sgiliau, ac amgylcheddau diogel a glân - yn ddigon cryf neu maent ar goll yn gyfan gwbl," meddai.

'Cam ymlaen'

Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws bod gwaith ymchwil o’r fath yn “gam mawr ymlaen” o ran deall a lleihau anghydraddoldebau canser yn y gymdeithas.  

Fel rhan o’r gwaith ymchwil fe ddaeth i’r amlwg mae gan bobl sy’n byw mewn tai ‘gorlawn’ gyfraddau canser saith gwaith yn uwch ‘na phobl â dwy neu mwy o ystafelloedd sbâr.

Ac mae gan breswylwyr tai cymdeithasol gyfraddau canser bron tair gwaith yn uwch na phobl sy'n berchen ar eu cartref eu hun.

Er bod gan y boblogaeth wyn y cyfraddau canser uchaf yn gyffredinol – yn rhannol oherwydd oedran hŷn y grŵp gwyn - roedd pobl o gefndiroedd ethnig cymysg yn fwy tebygol o gael diagnosis yn ddiweddarach, medd yr adroddiad. 

Mae hyn yn golygu y gall pobl o gefndiroedd ethnig cymysg fod â llai o siawns o oroesi canser. 

Roedd dynion du yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser y prostad ac roedd menywod Asiaidd yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser y fron. 

Dywed Llywodraeth Cymru: “Mae'r adroddiad hwn yn dangos pwysigrwydd lle rydyn ni’n byw, y gwaith rydyn ni’n ei wneud, a'r cysylltiadau a'r perthnasau sydd gennym gyda phobl eraill i'n hiechyd hirdymor.

“Rydyn ni’n gweithio ar draws y llywodraeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella gwasanaethau canser a'r cyfraddau goroesi. Rydyn ni’n buddsoddi i helpu pobl i fyw bywydau iachach, ac i fyw bywydau mwy egniol, trwy strategaethau fel Pwysau Iach Cymru Iach a chreu cenhedlaeth ddi-fwg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.