
Menyw yn teithio 250 milltir rhwng Abertawe ac Essex i ofalu am ei rhieni
Mae menyw o Abertawe yn gorfod teithio 250 milltir o Gymru i Essex bob wythnos rhwng gofalu am ei mam a'i thad.
Roedd Lisa Fearne wedi rhoi'r gorau i'w swydd er mwyn bod yn ofalwr llawn amser i’w thad yn Abertawe yn barod, ond ar ôl i’w mam golli ei golwg roedd rhaid iddi ddechrau gwneud y siwrne i Loegr er mwyn gallu gofalu am y ddau.
Mae Lisa yn teithio o’i chartref yn Llwchwr i Southend yn Essex.
“Mae rhaid i chi wynebu’r M4 a’r M25 - gall y daith bara hyd at naw awr!” meddai Lisa wrth ITV Cymru.
“Dwi’n cyrraedd yn flinedig, dwi’n cysgu mewn gwely gwahanol, a dwi’n ceisio dal i fyny gyda phopeth mae mam eisiau ar yr un pryd.
"Anaml iawn dwi’n cysgu’n dda.”
Er bod Lisa’n fedrus iawn, mae hi’n dweud ei bod hi’n amhosib ail-ymuno â’r byd gwaith oherwydd diffyg swyddi digon hyblyg er mwyn iddi allu parhau i ofalu am ei rheini.

Mae ymchwil newydd gan y grŵp cymorth Carents yn dangos bod tua 400,000 o weithwyr yn y DU yn ymddeol yn gynnar er mwyn gofalu am eu rhieni bob blwyddyn, gyda 44% o gyflogwyr yn dweud bod colli staff am y rhesymau yna yn niweidio’u busnes.
Dywedodd Lisa fod gofalu’n llawn amser wedi newid ei bywyd.
“Mae’n anodd weithiau," meddai.
"Chi’n brwydro gyda phobl feddygol i geisio sortio apwyntiadau, neu’n brwydro i dderbyn y driniaeth gywir i’ch rhieni.
“Dwi ddim yn gweld fy ffrindiau rhagor, ac yn braidd yn gweld gweddill fy nheulu.”
Er bod gan Lisa bartner cefnogol adref, mae hi’n dweud fod cymorth yn anodd ei ddarganfod.
“Mae’n braf i weld fod pobl arall ar yr un daith â mi, ond mae’n rhwystredig ac yn drist bod rhaid i ni frwydro i hyd yn oed derbyn cymorth sylfaenol gan sefydliadau fel yr awdurdodau lleol, sydd ddim gyda’r amser neu digon o bobl i roi’r cymorth dyn ni angen," meddai.
‘Effeithiau hirdymor’
Dywedodd Dr. Jackie Gray, sefydlwr Carents: “Mae stori Lisa yn arbennig iawn, ond yn un sydd ddim yn anarferol iawn yn ein cymunedau; dyn ni’n gweld hyn yn ddyddiol.
“Nawr, mae teuluoedd yn llawer mwy gwasgaredig - dydyn ni ddim i gyd yn byw yn yr un tŷ, stryd na thref â’n teulu estynedig.
“Rydym yn gweld pobl yn teithio’r wlad gyfan i gadw eu teulu’n ddiogel yn aml.
“Mae’n bosib fod yna effeithiau hirdymor dwys ar iechyd a lles y ‘carents’.”