'Albanwyr wedi pleidleisio dros newid' medd Starmer wedi i Lafur ennill is-etholiad yn yr Alban
Mae Syr Keir Starmer wedi dweud bod pobl yr Alban wedi "pleidleisio dros newid" wedi i'r Blaid Lafur guro'r SNP yn yr isetholiad yn Hamilton, Larkhall a Stonehouse yn yr Alban.
Fe wnaeth Prif Weinidog y DU longyfarch yr ymgeisydd buddugol, Davy Russell o Blaid Lafur yr Alban, gan ddweud ei fod yn "edrych ymlaen" at gydweithio.
Daeth yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth AS yr SNP Christina McKelvie ym mis Mawrth eleni.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fore Gwener, dywedodd Syr Keir: "Mae pobl yn yr Alban wedi pleidleisio dros newid unwaith eto.
"Y flwyddyn nesaf [yn ystod etholiad Senedd yr Alban] mae cyfle i roi hwb i’r ddarpariaeth drwy roi Llafur mewn grym ar ddwy ochr y ffin.
"Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi."
Cipiodd Mr Russell y sedd gyda 8,559 o bleidleisiau. Daeth yr SNP yn ail gyda 7,957 o bleidleisiau, gyda Reform UK yn y trydydd safle gyda 7,088 o bleidleisiau.
Dywedodd yr AS newydd ei fod yn "falch" o fod wedi cael ei ethol.
"Dywedais yn yr ymgyrch hon y byddaf yn rhoi'r gymuned hon, ein cymuned yn gyntaf," meddai.
"Byddaf yn gweithio bob dydd i wneud hynny."
Llun: PA