Pêl-droed: Cymru ar frig eu grŵp ar ôl curo Liechtenstein
Mae Cymru ar frig Grŵp J yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar ôl curo Liechtenstein o 3-0 nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae gan Gymru saith o bwyntiau, gyda Gogledd Macedonia yn ail ar bum pwynt, Kazakhstan yn drydydd gyda thri phwynt a Gwlad Belg yn yn bedwerydd gydag un pwynt.
Ond dim ond un gêm y mae Gwlad Belg wedi ei chwarae, tra fod Cymru wedi chwarae tair gêm hyd yn hyn yn y grŵp.
Roedd disgwyl y byddai Cymru yn curo Liechtenstein, gyda'r ymwelwyr yn safle rhif 205 yn rhestr detholion y byd.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cymru bellach yn ddi-guro yn y naw gêm ers i Craig Bellamy gymryd yr awenau fel rheolwr.
Roedd Ethan Ampadu a Harry Wilson yn ôl yn y tîm ar ôl methu'r ddwy gêm agoriadol yn yr ymgyrch oherwydd anaf, gyda Liam Cullen, Kieffer Moore a Connor Roberts hefyd wedi'u henwi.
Hanner cyntaf
Cymru oedd yn hawlio'r meddiant ar ddechrau'r gêm, a hynny yn ddisgwyliedig, gyda Harry Wilson yn ceisio sgorio o gic rydd wedi pedwar munud o chwarae.
Fe ddechreuodd Sorba Thomas yn gryf i Gymru hefyd, gan groesi sawl pêl i'r cwrt cosbi, ond heb lwyddo i ddod o hyd i chwaraewr i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd.
Er fod Cymru yn rheoli'r gêm, parhau yn ddi-sgôr oedd hi wedi 15 munud o chwarae.
Roedd golygfeydd pryderus i Gymru ar ôl 19 munud, gyda Neco Williams yn disgyn i'r llawr mewn poen ofnadwy ac yn gorfodi Craig Bellamy i'w eilyddio yn gynnar yn y gêm.
Bu'n rhaid i Williams adael y cae, gyda Jay Dasilva yn dod ymlaen fel eilydd.
Daeth Brennan Johnson yn agos at roi Cymru ar y blaen wedi hanner awr o chwarae, ond fe wnaeth arbediad campus gan gôl-geidwad Liechtenstein olygu fod y gêm yn parhau yn gyfartal.
Ond daeth y cyfle euraidd i Gymru bum munud cyn hanner amser, gyda Joe Rodon yn penio'r bêl i gefn y rhwyd wedi croesiad gan Sorba Thomas, gan roi Cymru ar y blaen.
Dyma oedd gôl gyntaf ryngwladol Joe Rodon ar ôl ennill 53 o gapiau dros ei wlad.
1-0 i Gymru oedd y sgôr ar ôl yr hanner cyntaf.
Ail hanner
Doedd dim newidiadau i dîm Craig Bellamy cyn yr ail hanner, gyda Sorba Thomas yn parhau yn fygythiad i lawr yr asgell chwith.
Cymru oedd yn parhau â'r meddiant, ond yn methu â llwyddo i sicrhau y bàs olaf hollbwysig i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd.
Fe gafodd Keiffer Moore sawl cyfle ar ddechrau'r ail hanner, ond ni lwyddodd i ddyblu mantais y tîm.
Daeth newidiadau i Gymru ar ôl 63 munud, gyda Brennan Johnson, Ethan Ampadu a Sorba Thomas yn gadael y cae a David Brooks, Josh Sheehan a Lewis Koumas yn dod ymlaen fel eilyddion.
Ychydig funudau wedyn, fe wnaeth croesiad gwych gan Jay Dasilva ddarganfod Harry Wilson yn y cwrt cosbi ac fe wnaeth benio i sgorio'r ail gôl i Gymru.
Ac o'r diwedd, fe lwyddodd Keiffer Moore i sgorio i Gymru ar ôl sawl ymdrech i wneud, gan roi Cymru ar y blaen 3-0 ac mewn rheolaeth lwyr.
Gadawodd Harry Wilson y cae gyda chwarter awr i fynd, gyda Jordan James yn dod ymlaen fel eilydd.
Roedd Hen Wlad Fy Nhadau yn fyddarol yn y stadiwm gyda 10 munud o chwarae i fynd.
A pharhau yn 3-0 oedd hanes y gêm wrth i'r chwiban olaf gael ei chwythu, gan olygu fod Cymru ar frig y grŵp ar ôl chwarae tair gêm.
Ond yr her anoddaf hyd yma fydd y gêm oddi cartref nos Lun, pan y bydd tîm Craig Bellamy yn herio Gwlad Belg oddi cartref.