Newyddion S4C

Ffilm Gymraeg mewn gwyliau cwiar rhyngwladol 'yn rhoi Cymru ar y map'

Ffilm Gymraeg mewn gwyliau cwiar rhyngwladol 'yn rhoi Cymru ar y map'

Mae dangos ffilm Gymraeg mewn gwyliau rhyngwladol cwiar am y tro cyntaf yn 'rhoi Cymru ar y map', yn ôl awdur y ffilm.

Mae'r ffilm fer 'Teth', a gafodd ei chomisiynu gan S4C, wedi ei hysgrifennu gan Leo Drayton ac wedi ei chyfarwyddo gan Peter Darney.

Dyma ydy'r tro cyntaf i ffilm iaith Gymraeg gael ei dangos mewn sawl gŵyl ryngwladol cwiar, gan gynnwys BFI Flare yn Llundain, gŵyl Pune yn India a gŵyl Outsouth yng Ngogledd Carolina. 

Mae'r ffilm yn dilyn hanes Ioan, sydd yn ddyn ifanc trawsryweddol, wedi ei lawdriniaeth, wrth iddo fe a'i dad addasu i'w perthynas newydd fel tad a mab. 

Leo sydd hefyd yn chwarae rhan Ioan yn y ffilm. 

Dywedodd Leo wrth Newyddion S4C: "Ma'r stori basically yn stori fi.

"So ges i driniaeth top surgery ym mis Rhagfyr 2022 ag o'n i'n teimlo oedd gap enfawr o ran dim ffilmiau, dim cymeriadau, dim straeon yn sôn am y profiad o gael triniaeth ail-bennu rhyw yn enwedig yn y Gymraeg so o'n i'n teimlo'n rili angerddol bod hwnna yn bwysig.

"Oedd enw y ffilm (Teth) jyst yn sôn am beth yn union oedd y ffilm. Ma'r ffilm am y boi 'ma yn cael triniaeth lle mae'n cael top surgery ag un o'r rhannau o'r top surgery yw ma' nhw'n cymryd off y nipples a wedyn rhoi nhw 'nôl mlaen ar ôl i'r driniaeth gael ei gwpla."

Image
Teth
Fe gafodd y ffilm Teth ei hysgrifennu gan Leo Drayton a'i chyfarwyddo gan Peter Darney.

Er yn ymdrin â themâu sensitif yn y ffilm, dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Peter Darney bod hiwmor yn elfen bwysig ynddi hefyd. 

"Mae’n hynod o bwysig ei bod yn gomedi, a dwi’n meddwl mai dyna sy’n arbennig am y ffilm," meddai.

"Yn aml iawn pan ‘dych chi’n gwylio ffilmiau byr, nodwedd sy’n edrych ar brofiadau pobl trawsryweddol, maen nhw’n gallu bod yn eitha depressing, ac maen nhw’n gallu canolbwyntio ar y pynciau anodd y mae’r bobl yma yn wynebu.

"Ac yn amlwg, mae yna le i hynny, ond mae yna hefyd le i gael rhywbeth sydd yn codi calon ac yn dathlu profiadau positif. ‘Dyn ni wedi derbyn yr adborth yma hefyd yn y gwyliau hyd yn hyn, sef ei bod hi’n eithaf anarferol i gael comedi sy’n edrych ar y pynciau yma mewn ffordd ddoniol ond sensitif."

Ychwanegodd Leo: "Fi'n credu ma' comedi yn rhywbeth mor bwysig er mwyn trio cael cynulleidfa ar ochr ti, os ti'n creu rhywbeth sydd yn hwyl a sy'n rhoi caniatad i bobl chwerthin, mae'n ennyn fwy o gydymdeimlad. 

"Trwy'r ffilm yma, dan ni'n rhoi gwahoddiad i bawb o bob math o gefndir ag oedran i ymuno â ni a dysgu am rywbeth a mwynhau'r ffilm."

'Lle i bobl cwiar yn yr iaith Gymraeg'

Roedd creu'r ffilm yn Gymraeg, iaith gyntaf Leo, hefyd yn hynod o bwysig iddo.

"Pan o'n i'n creu'r ffilm, o'n i fel 'Obviously fi'n mynd i neud e yn y Gymraeg' achos dyna yw fy iaith gyntaf i so oedd fy mhrofiad i drwy gyfrwng y Gymraeg a nes i ddim meddwl unrhyw beth amdano fe," meddai. 

"Nawr yn gweld bod y ffilm iaith Gymraeg yma yn mynd i lefydd fel Llundain, India, Amsterdam, San Francisco, Canada, ma'n rhoi'r iaith Gymraeg ar y map, ma' hwnna yn grêt.

"Fi methu siarad am profiad pawb, ond i fi, ma' Cymru a fy hunaniaeth Gymraeg wedi rili plethu gyda fy hunaniaeth cwiar a fi 'di cael profiade amazing gyda pobl fi'n 'nabod mewn cymunedau bach yn y wlad ac yn y trefi mawr. Ma'r ffilm yma jyst yn dangos bod 'na le i bobl cwiar yn yr iaith Gymraeg."

Ychwanegodd y cyfarwyddwr, Peter Darney: "I lawer o’r bobl sy’n dod i’r gwyliau yma, fyddan nhw ddim hyd yn oed yn gallu pwyntio at Gymru ar y map, heb sôn am wybod fod gan Gymru ei hunaniaeth unigryw a’i hiaith ei hun, ac i fod yn rhannu hynny efo’r byd a phobl sy’n dod ar draws y pethau yma am y tro cyntaf, dwi’n meddwl bod o’n rili cŵl.

"Dwi’n meddwl ei fod o’n gwneud i Gymru edrych fel lle blaengar sy’n edrych ymlaen at y dyfodol, a dyna sut dwi’n gweld pethau o fy mhrofiad fy hun fel Cymro sy’n byw yma."

Image
Teth
Dyma'r tro cyntaf i ffilm yn y Gymraeg gael ei dangos mewn sawl gŵyl ryngwladol cwiar.

Mae Leo hefyd yn gobeithio y bydd y ffilm yn gymorth ac yn gysur i'r gymuned gwiar yng Nghymru. 

"Ar gyfer pobl cwiar Cymraeg, i allu gwylio rhywbeth sydd yn newydd ag yn ffres yn y Gymraeg, ma' hwnna yn rili rili pwerus. Bydd e yn Tafwyl, yn y 'Steddfod felly i wybod y bydd pobl Cymraeg yn gallu gwylio fe, ma' hwnna yn rili grêt," meddai.

"Iddyn nhw wybod bod e wedi teithio'r byd a bod gwledydd eraill hefyd 'di profi'r un ffilm, ma' 'na rywbeth eitha cŵl am hynny fi'n credu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.