Hyfforddi meddygon teulu i adnabod endometriosis yn gynt
Mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu hyfforddi i adnabod symptomau endometriosis yn gynt.
Daw hyn er mwyn helpu i wella'r ffordd y mae menywod yn cael diagnosis o'r cyflwr a gwella'r gofal ar eu cyfer.
Mae un o bob 10 menyw yng Nghymru yn dioddef o endometriosis, ac mae'n un o feysydd blaenoriaeth y Cynllun Iechyd Menywod a gafodd ei gyhoeddi chwe mis yn ôl.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y rhaglen hyfforddi newydd yn un o'r mentrau iechyd menywod y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn eu darparu i feddygon teulu, a'r nod ydy helpu i wella profiadau gofal iechyd i fenywod.
Ychwanegodd y llywodraeth fod yr hyfforddiant ar endometriosis wedi arwain at gynnydd o 43% yn y wybodaeth am y cyflwr gan feddygon teulu sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hyd yma.
'Effaith enfawr'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy: “Rydyn ni’n clywed yn gyson bod menywod yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu clywed, a bod eu symptomau’n cael eu hanwybyddu.
"Mae’r hyfforddiant hwn yn gwneud yn siŵr bod lleisiau menywod wrth wraidd eu profiadau gofal iechyd, ac mae’n helpu meddygon teulu i gynorthwyo eu cleifion yn fwy effeithiol.
“Mae endometriosis yn gallu cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd menywod, eu gwaith a’u perthnasoedd."
Ychwanegodd Dr Mirka Slavska, ymgynghorydd obstetreg a gynaecoleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a ddarparodd yr hyfforddiant: “Roeddwn i’n falch iawn o’r cyfle i ddarparu’r hyfforddiant hwn gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
"Mae’r adborth rhagorol a gawsom ni yn adlewyrchu pa mor werthfawr yw rhoi gwybodaeth ymarferol a chyfredol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn gwella gofal i’r rhai sy’n byw gydag endometriosis."
Mae'r cyflwr yn un o wyth maes blaenoriaeth i wella gofal iechyd i fenywod a merched yn y Cynllun Iechyd Menywod a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.