Newyddion S4C

Craig Bellamy yn 'gyffro i gyd' cyn gêm Gwlad Belg

Cymru v Liechtenstein

Mae prif hyfforddwr Cymru Craig Bellamy wedi dweud ei fod yn “gyffro i gyd ” ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg nos Lun yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar ôl curo Liechtenstein o 3-0 nos Wener.

Mae Cymru ar frig Grŵp J ar ôl curo Liechtenstein yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafodd gwlad Belg gêm gyfartal yng Ngogledd Macedonia nos Wener.

Dywedodd Bellamy ei fod yn hapus iawn gydag “ymateb a meddylfryd” ei dîm.

Wrth edrych ymlaen ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg  dywedodd Bellamy: “Roedden ni'n gwybod pan gafodd y grŵp ei ddewis y byddai'n gêm dda. 

"Roeddwn i'n gyffrous pan welais i e gyntaf. Rwy'n fwy cyffrous nawr. Rwy'n gyfforddus iawn yn y grŵp o chwaraewyr sydd gennym ni. Gallaf weld dyfodol gwirioneddol anhygoel i bêl-droed Cymru.”

Dywedodd y capten Ben Davies ei fod yn hapus iawn gyda gwaith y tîm a bydd yr her gan Wlad Belg yn un anodd. 

Dywedodd: “Edrych 'mlaen ato fe. 

“Ni mewn sefyllfa dda yn y grŵp ac mae’n gem dda i edrych ymlaen i.”

Yr amddiffynnwr Joe Rodon sgoriodd gôl gyntaf Cymru nos Wener, ei gôl gyntaf mewn 50 gêm dros ei wlad. 

Harry Wilson sgoriodd yr ail gôl yn yr ail hanner, cyn i Kieffer Moore sgorio'r drydedd rai munudau yn ddiweddarach.   

Dywedodd Rodon na fydd eu paratoadau yn newid ar gyfer Gwlad Belg. 

“Byddwn yn paratoi fel yr ydym wedi'i wneud ar gyfer pob gêm ac yn paratoi i fynd eto ac yn paratoi ar gyfer gêm anodd ddydd Llun,” meddai. 

Mae Cymru bellach yn ddiguro mewn naw gêm o dan Craig Bellamy ac wedi'r fuddugoliaeth gyfforddus nos Wener, roedd yr amddiffynnwr Ethan Ampadu yn hyderus.   

Dywedodd: “Mae'n rhan o ddarlun mwy i gymhwyso ar gyfer twrnamaint mawr a dyna beth rydym am ei wneud. Rydym am fynd allan yna [Gwlad Belg] a cheisio cael tri phwynt."

Ni fydd Neco Williams ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Lun.

Bu’n rhaid i’r amddiffynnwr adael y cae nos Wener yn dilyn anaf.

Ei obaith nawr, meddai, yw bod yn holliach ar gyfer ymarfer cyn dechrau’r tymor gyda’i glwb Nottingham Forest.

Dywedodd Williams ar y cyfryngau cymdeithasol:  “Mor rhwystredig i gael yr anaf hwn ar ddiwedd y tymor ond nawr mae'n rhaid gorffwys, gwella a dod yn ôl yn barod ar gyfer ymarfer cyn y tymor newydd."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.