Elfyn Evans yn y pedwerydd safle yn Rali Sardinia
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn y pedwerydd safle ar ddiwedd trydydd diwrnod Rali Sardinia.
Roedd Evans dros bedair munud a hanner tu ôl i Sébastien Ogier o Ffrainc sy’n arwain ar ôl chwech o gymalau ddydd Sadwrn.
Evans sydd ar frig Pencampwriaeth y Byd ar hyn o bryd.
Dyma’r chweched rali i Evans yn y bencampwriaeth eleni.
Fe ddaeth yn ail yn Rali Monaco, ennill yn Sweden a Kenya, trydydd ar yr Ynysoedd Dedwydd a chweched ym Mhortiwgal.
Fe orffennodd Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd ar ôl iddo ennill rali ola’r tymor yn Japan ym mis Tachwedd.
Fe fydd Rali Sardinia’n dod i ben yn dilyn pedwar cymal ddydd Sul.
Llun: X/Elfyn Evans