Newyddion S4C

Spurs yn ymestyn cytundeb Ben Davies

Ben Davies

Mae clwb pêl-droed Tottenham Hotspur wedi ymestyn cytundeb capten ac amddiffynnwr Cymru, Ben Davies am flwyddyn arall.

Dywedodd y clwb ddydd Sul eu bod nhw’n “falch o gyhoeddi ein bod ni wedi gweithredu ar opsiwn i ymestyn cytundeb Ben Davies, fydd yn para nawr hyd nes haf 2026”.

Fe ymunodd Davies, sy’n 33 oed, gyda’r clwb o ogledd Llundain o Abertawe yn 2014.

Mae wedi chwarae 242 o weithiau dros Spurs ac yn rhan o’r garfan enillodd tlws Cynghrair Europa fis diwethaf.

Roedd cytundeb presennol Davies, sy’n hanu o Gastell-nedd yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn.

Roedd adroddiadau ar led yr wythnos diwethaf fod Wrecsam yn awyddus i'w arwyddo wedi eu dyrchafiad i'r Bencampwriaeth.

Ond cyn gêm Cymru yn erbyn Liechtenstein nos Wener dywedodd Ben Davies: "Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth i'w ddiweddaru a dweud y gwir, dydw i ddim yn meddwl mai fi fydd y person sy'n gwneud unrhyw un o'r penderfyniadau hynny, felly cyn belled ag yr ydw i'n y cwestiwn, mae fy ffocws llawn yma yr wythnos hon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.