Newyddion S4C

Adroddiadau fod Aaron Ramsey ar ei ffordd i Fecisco

Aaron Ramsey gan Huw Evans

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey wedi cytuno i arwyddo cytundeb gyda chlwb pêl-droed Club Universidad Nacional ym Mecisco, sy'n cael eu hadnabod fel y Pumas, yn ôl adroddiadau gan asiantaeth newyddion PA. 

Pe bai'n gadael Caerdydd ac yn ymuno â'r tîm hwnnw, Ramsey fyddai'r chwaraewr cyntaf o Gymru, a'r Deyrnas Unedig i chwarae yng nghyngrair Mecsico. 

Cafodd cyn chwaraewr canol cae Juventus ac Arsenal ei benodi'n rheolwr dros dro Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ar gyfer tair gêm olaf tymor 2024-2025 yn y Bencampwriaeth ar ôl i'r clwb ddiswyddo eu rheolwr Omer Riza.

Ni lwyddodd y chwaraewr 34 oed i atal yr Adar Gleision rhag disgyn i drydedd haen cynghrair bêl-droed Lloegr. 

Ac roedd adroddiadau y gallai o bosibl ymgymryd â rôl y rheolwr yno yn llawn amser yr haf hwn.  

Mae Aaron Ramsey wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn awyddus i barhau i chwarae ac arwain Cymru pe bai'r tîm cenedlaethol yn cyrraedd Cwpan y Byd yr haf nesaf.

Dychwelodd i chwarae i Gaerdydd yn 2023, ond mae anafiadau wedi ei gadw oddi ar y cae.  

Gorffenodd y Pumas, yn chweched yn y gynghrair ym Mecsico yn 2024-25.

Llun: Asiantaeth Huw Evans   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.