Tara Bethan yn cyhoeddi ei bod yn disgwyl babi
Mae'r gantores a'r cyflwynydd Tara Bethan wedi datgelu ei bod yn feichiog.
Cyhoeddodd y newyddion ar ei chyfrifon cyhoeddus fore Sul.
"Bwmp Bandito incoming. Rioed 'di teimlo mor ffodus," meddai.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn 2022, dywedodd bod angen trafodaeth fwy agored am drafferthion beichiogi, gan nodi bryd hynny ei bod wedi ceisio cael plentyn ers bron i dair blynedd.
Er bod meddygon wedi dweud wrth Tara ar y pryd, nad oedd rheswm pam na ddylai feichiogi,“dydy o jyst heb ddigwydd,” meddai yn 2022.
Disgrifiodd y broses o drio am fabi fel un unig, ac roedd hi’n teimlo y byddai'n haws os byddai’r drafodaeth yn un fwy agored.
Yn sgil ei phrofiad, fe ddechreuodd bodlediad newydd gyda’i ffrind a’r actores Erin Richards - ‘Not Not Trying’.
Yn canu o dan yr enw Tara Bandito, mae'r gantores yn brysur yn perfformio mewn gwyliau cerddorol ar hyn o bryd.
Bu'n chwarae yng Ngŵyl Fach y Fro yn y Barri fis Mai, a bydd hi'n perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, fis Awst.