Newyddion S4C

Nigel Farage yn addo 'ail-ddiwydiannu' Cymru wrth ymweld â Phort Talbot

Farage (PA)

Mae disgwyl i Farage ddweud y dylai ailddechrau cynhyrchu dur traddodiadol fod yn uchelgais hirdymor ar ymweliad i Bort Talbot ddydd Llun, meddai llefarydd.

Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage yn credu fod gan ei blaid gyfle i ddod a goruchafiaeth Llafur yng Nghymru i ben yn ystod etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Mae'r Llywodraeth wedi cefnogi cynlluniau ar gyfer ffwrnais arc trydan newydd gwerth £1.25 biliwn yng ngwaith dur Tata, gyda'r bwriad o'i throi ymlaen yn 2027 fel rhan o'r ymdrech tuag at gynhyrchu mwy gwyrdd.

Cafodd ffwrnais chwyth olaf y gwaith ei chau ym mis Medi 2024.

Mae rhai ASau wedi dweud bod gweithwyr yn Ne Cymru wedi cael eu siomi o'i gymharu â'r rhai sy'n cadw swyddi yn Scunthorpe, lle cymerodd gweinidogion reolaeth dros y gwaith dur i atal cau ei ffwrneisi chwyth.

Mae'r Llywodraeth wedi dweud bod y ddau waith dur mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Mewn erthygl ar Wales Online, dywedodd Nigel Farage: “Caeodd Llafur unig ffwrneisi gwneud dur craidd Cymru, rydym am eu hagor yn y tymor hir.”

“Rydym wedi dweud ac yn dweud eto ein bod yn credu ei bod yn well defnyddio glo Prydeinig ar gyfer dur Prydain na glo wedi'i fewnforio.”

Ychwanegodd y byddai Senedd dan reolaeth Reform yn defnyddio Grantiau Datblygu Cymru i gefnogi “diwydiant go iawn”.

“Byddwn hefyd yn sefydlu colegau technegol rhanbarthol fydd yn dysgu weldio, plymio, roboteg, crefftau trydanol ac awtomeiddio diwydiannol” meddai.

Bydd yn ymweld â Phort Talbot ddydd Llun ac yn cyflwyno araith yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.